Skip to main content

Mân gymhorthion, cyfarpar ac addasiadau

Gall cael mynediad at y mân gymorthyddion, cyfarpar neu addasiadau cywir ar eich cyfer eich cynorthwyo chi i gyflawni tasgau dyddiol, parhau i fyw gartref cyhyd ag y bo modd ynghyd â chynnal eich annibyniaeth.

Rydyn ni oll yn unigolion, a chi fydd yn gwybod orau am beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni a beth allai weithio'n dda ichi. Rydyn ni wedi creu taflen ffeithiau sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl er mwyn eich cynorthwyo chi i benderfynu pa fath o gyfarpar allai fod o fudd ichi. Mae'r daflen ffeithiau yn cynnwys gwybodaeth am y mathau gwahanol o gyfarpar a sut allai'r cyfarpar yma eich helpu chi, pethau i'w hystyried cyn prynu a lle mae modd ichi brynu'r cyfarpar yma. Mae modd prynu bron pob darn o gyfarpar sy'n cael ei grybwyll yn y daflen ffeithiau am lai na £40 gan fanwerthwyr lleol ac ar-lein.

Gwybodaeth am ddarnau bach o gyfarpar y mae modd i chi eu prynu i'ch cefnogi - Taflen Ffeithiau

Dogfen hawdd ei deall ‘Offer i'ch cefnogi chi’ - Taflen Ffeithiau

Yn dilyn asesiad o anghenion, mae’n bosibl y bydd modd i ni ddarparu ystod eang o gymorth gwahanol i’ch helpu chi, megis:   

Therapi Galwedigaethol yn y Gymuned:

Mae’n bosibl y bydd modd i’n  Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn y Gymuned ddarparu cymorth pellach er mwyn eich helpu chi i gyflawni tasgau dyddiol mewn modd diogel ac annibynnol. Os ydych chi’n uniaethu ag unrhyw un o’r datganiadau isod, mae’n bosibl y byddwch chi'n dymuno holi am y cymorth y mae’r modd i’r gwasanaeth yma ei roi i chi.   

  • "Hoffwn i atebion/ffyrdd ymarferol er mwyn ei gwneud yn haws imigyflawni tasgau dyddiol megis golchi / ymolchi / gwisgo / symud o amgylch y tŷ / paratoi prydau / mynd i mewn ac allan o'r gwely / mynd ar ac oddi ar y toiled neu eistedd a chodi oddi ar gadair."
  • "Hoffwn i gwrdd â rhywun sy’n gallu fy helpu i benderfynu a fyddai modd addasu fy nghartref er mwyn sicrhau ei fod yn fwy hygyrch i mi.  Byddai’n dda pe byddai modd iddyn nhw roi gwybod am grantiau y byddai modd i mi ymgeisio ar eu cyfer er mwyn helpu i dalu am y gwaith yma."
  • "Hoffwn i gwrdd â rhywun fydd yn darparu cymorth ymarferol a chyngor i fy nghynhaliwr er mwyn eu cynorthwyo nhw i barhau i ofalu amdanaf mewn modd diogel a chyfforddus." 

Mae modd ichi ddysgu rhagor am ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yma: Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Gwifren Achub Bywyd a Theleofal:

Rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaethau larymau argyfwng cartref er mwyn helpu pobl i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain. Os ydych chi'n cael trafferth â'ch cof neu symudedd, neu rydych chi'n gynhaliwr sy'n byw ag anwylyn, mae'n bosibl y byddai'r gwasanaethau yma'n ddefnyddiol ichi. Mae modd ichi gael rhagor o wybodaeth yma: Larymau Argyfwng – Gwifren Achub Bywyd a Theleofal

Gwasanaethau Materion y Synhwyrau:

Os ydych chi'n cael trafferth â'ch golwg neu glyw, efallai rydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o dderbyn gofal mwy arbenigol. Mae’n bosibl y bydd modd i garfan y  Gwasanaethau Materion y Synhwyrau eich helpu chi drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu offer. Maen nhw hefyd yn darparu hyfforddiant mewn meysydd penodol megis byw'n annibynnol, sgiliau cyfathrebu a symudedd yn y tŷ a thu allan i’r tŷ. Mae modd ichi ddysgu rhagor yma: Colli Golwg neu Glyw

Er mwyn ceisio am unrhyw un o'r gwasanaethau sydd wedi'u nodi uchod, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod a gofynnwch am asesiad anghenion.

Un Man Cyswllt:

Rhif ffôn:01443 425003 (Mae'r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm)

Gwasanaethau Cymdeithasol - cymorth y tu allan i oriau gwaith

Mae ein Gwasanaeth tu allan i Oriau Gwaith yn ymateb ar frys i achosion o argyfyngau gofal cymdeithasol tu allan i oriau gwaith arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos. Rhif ffôn: 01443 743665 / 01443 657225.