Skip to main content

Calendrau

Yma, byddwch chi'n dod o hyd i wybodaeth am yr hyfforddiant sydd gyda ni wedi'i gynllunio a'r ffordd y mae modd i chi fanteisio ar yr hyfforddiant yma.

Mae pob calendr ar gyfer cynulleidfa benodol ac felly mae'n well gwirio hyn cyn i chi geisio cadw lle.

Calendrau Hyfforddi – Rhaglen flynyddol o achlysuron hyfforddi a datblygu

Staff yr Awdurdod Lleol – agored i staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn unig

Cyflogwyr sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, datblygiad a chymwysterau effeithiol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol o hyd. Bwriad y grant RhDGGCC yw ychwanegu’n sylweddol at yr adnoddau sy'n cael eu darparu gan gyflogwyr.

“Dylai'r grant gael ei ddefnyddio i gefnogi gweithrediad parhaus Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a nodi blaenoriaethau rhanbarthol a lleol i gefnogi gwella gofal a chefnogaeth ar draws yr holl ddarparwyr a sefydliadau gofal cymdeithasol. Yn ogystal â gwasanaethau rheoledig a'r rhai sydd wedi eu comisiynu, mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr personol i  dderbynwyr taliadau, gwirfoddolwyr, pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, cynhalwyr/gofalwyr, gwasanaethau rhanbarthol fel byrddau diogelu, mabwysiadu, CAFCASS ac Arolygiaeth Gofal Cymru, ond dydy'r rhain ddim yn gynhwysfawr. Mae hyn yn ymestyn i weithio yn y dyfodol gyda chyflenwad gweithlu a mentrau perthnasol gydag ysgolion, Addysg Bellach, Addysg Uwch a chynlluniau Cyflogaeth." (Gofal Cymdeithasol Cymru Cylchlythyr Grant 2022/23).

Mae’n bosibl bod y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol eisoes yn gyfarwydd â’r rhaglenni hyfforddi yma, fodd bynnag, ni waeth pwy sy’n gofyn am le, rhaid ceisio cymeradwyaeth Rheolwr y Garfan cyn gwneud cais i fynychu unrhyw un o’r cyrsiau.

Mae bob un o’r calendrau ar gyfer  cynulleidfaoedd penodol, sy’n cael eu hamlinellu yn y cyfeiriaduron hyfforddi llawn. Yn gyffredinol, mae dau fath o gymhwysedd, sydd fel a ganlyn:

Cymhwysedd i gael mynediad at achlysuron dysgu a datblygu (ac eithrio'r calendr diogelu)

  • Byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth i'r sawl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful a gomisiynwyd gan y naill awdurdod lleol.
  • Unwaith bydd y galw yma wedi disbyddu, bydd galw am wasanaethau cysylltiedig yn cael eu hystyried, gan gynnwys: iechyd; addysg; profiannaeth; yr heddlu; lleoliadau blynyddoedd cynnar; cynorthwywyr personol. Bydd nifer y lleoedd yn cael eu rhannu mor gyfartal â phosibl rhwng pob gwasanaeth.
  • Yn olaf, bydd unrhyw leoedd dros ben yn cael eu dosbarthu i feysydd gwasanaeth sydd wedi neud cais am yr hyfforddiant dan sylw– mae enghreifftiau'n cynnwys y gwasanaethau hamdden, cymdeithas tai, Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau cymunedol ehangach, ac ati.

Cymhwysedd i gael mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu o ran diogelu oedolion a phlant

  • Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i'r sawl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
  • Wedi’i gomisiynu gan y naill awdurdod lleol, neu gan bartneriaid statudol h.y. iechyd; addysg; gwasanaeth prawf; yr heddlu, lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd dosbarthiad yn cael ei rannu mor gyfartal â phosib rhwng pob gwasanaeth.

Bydd unrhyw leoedd dros ben yn cael eu dosbarthu i feysydd gwasanaeth sydd wedi gwneud cais am yr hyfforddiant dan sylw – mae enghreifftiau'n cynnwys y gwasanaethau hamdden, cymdeithas tai, Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau cymunedol ehangach.

Nodwch – os bydd cwestiwn yn codi o ran cymhwysedd gwasanaeth/asiantaeth a’i flaenoriaeth, yna bydd y swyddog hyfforddi perthnasol a/neu'r rheolwr datblygu'r gweithlu yn gwneud penderfyniad cyn cadarnhau.

Mae ein calendr diogelu ar gael ar wefan Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg. Bydd rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael yma i'ch cynorthwyo.  

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ffoniwch y rhif sydd i'w gweld yn y calendr, neu 01443 281444, neu e-bostiwch hyfforddiantgofalcymdeithasol@rctcbc.gov.uk