Skip to main content

Grantiau Gwresogi ac Arbed

Cymorth grantiau sydd ar gael i drigolion RhCT i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. 

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref, mae gennym ni nifer o grantiau cymorth ar gael er mwyn sicrhau bod eich cartref yn cael ei wresogi'n ddigonol. Gall ein grantiau ddarparu cymorth ariannol ar gyfer nifer o fesurau effeithlonrwydd ynni – gall perchen-feddianwyr dderbyn hyd at £5,000. 

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i chi fod yn berchen-feddianwyr a diwallu un o'r nodweddion isod:

  • Incwm aelwyd o dan £30,576
  • Aelod o'r cartref â chyflwr iechyd, yn benodol salwch sy'n gysylltiedig ag oerfel
  • Offer gwresogi nad yw'n gweithio neu ddim gwres o gwbl 
  • Hen system wresogi aneffeithlon
  • System wresogi tanwydd solet (glo)
  • Methu fforddio'r biliau ynni i gadw'ch cartref yn gynnes/dyled ar eich biliau ynni
  • Cartref sy'n aneffeithlon o ran ynni 

Mae rhestr o'r holl dystiolaeth bydd rhaid i chi ei darparu wrth wneud cais yn y dogfennau cysylltiedig.

Sylwch nad oes angen i chi dderbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd i wneud cais. Mae'r cymorth grant yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch cymhwysedd.

Cymorth ychwanegol

Mae modd i'n hymgynghorwyr hefyd gynnig cymorth ac atgyfeiriadau ar gyfer;

  • Gwneud y gorau o'ch arian
  • Rheoli dyledion a rheoli arian
  • Lleihau biliau cyfleustodau
  • Cymorth grant ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'ch cartref

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma.

Mae hefyd modd i ni eich cyfeirio chi at grantiau allanol y gallwch chi fod yn gymwys ar eu cyfer megis Cynllun Nyth Llywodraeth Cymru neu cynllun ariannu ECO Llywodraeth y DU.

 

Grantiau Gwresogi ac Arbed 

Os hoffech chi gopi caled o'r ffurflen gais,

Ffoniwch 01443 281136

E-bostiwch gwresogiacarbed@rctcbc.gov.uk