Prentisiaethau a Chyfleoedd i Raddedigion
Dechreuodd Cynllun Prentisiaeth y Cyngor ym mis Medi 2012. Caiff y galw am swyddi i brentisiaid ei bennu gan anghenion cynllunio'r gweithlu ar gyfer pob maes gwasanaeth. Bydd pob Prentis yn cyflawni cymhwyster sy'n berthnasol i rôl ei Brentisiaeth, yn unol â fframweithiau Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen i Raddedigion wedi bod ar waith ers 2004. Mae'r rhaglen dwy flynedd yma'n galluogi Swyddogion Graddedig i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau datblygu personol, proffesiynol a thechnegol o fewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth.