Rhywogaethau Goresgynnol yn eich gardd
Rhywogaethau estron goresgynnol yw un o'r prif fygythiadau i fioamrywiaeth ac un o'r 5 prif ffactor sy'n achosi dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Mae modd i rywogaethau goresgynnol:
- Meddiannu ardaloedd cyfan o dir a threchu rhywogaethau brodorol am adnoddau megis dŵr a golau
- Cario a lledaenu clefydau i rywogaethau brodorol.
- Croesi â'n rhywogaethau brodorol nes bod eu nodweddion unigryw yn cael eu colli. Enghraifft o hyn yw'r clychau gog brodorol, rhywogaeth coetir hardd ac eiconig, sydd dan fygythiad ar hyn o bryd gan glychau gog goresgynnol Sbaen.
Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i gyfyngu ar ledaeniad rhywogaethau goresgynnol i gefn gwlad.Beth mae modd i mi ei wneud?Mae yna lawer o ffyrdd y mae modd i chi helpu i fynd i'r afael â bygythiad rhywogaethau goresgynnol.
- Osgowch blannu rhywogaethau estron goresgynnol yn eich gardd. Cyflwynwyd rhai rhywogaethau planhigion goresgynnol anfrodorol yn wreiddiol fel planhigion addurniadol yn yr ardd cyn iddyn nhw ddianc a dod yn ymledol. Mae enghreifftiau'n cynnwys rhywogaethau cotoneaster, coeden lawrgeirios a'r rhododendron. Ymchwiliwch i rywogaethau cyn plannu ac ystyriwch blannu rhywogaethau brodorol neu ddewisiadau amgen nad ydyn nhw'n rhai goresgynnol.
- Atal planhigion rhag lledaenu – gwnewch yn siŵr bod planhigion yn cael eu cadw yn eich gardd a'u hatal nhw rhag mynd dros y ffens a lledaenu i'r gwyllt. Tynnwch unrhyw eginblanhigion neu blanhigion sy'n dechrau tyfu i'w hatal rhag lledaenu.
- Gwaredwch ar wastraff gardd yn gyfrifol – Efallai y bydd llawer o bobl yn meddwl ei fod yn iawn taflu gwastraff gardd gwyrdd dros eu ffens neu i goetir cyfagos oherwydd bydd yn pydru. Serch hynny, dyma un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae rhywogaethau goresgynnol yn lledaenu. Mae modd cael gwared ar wastraff gwyrdd yn gyfrifol drwy gynllun ailgylchu gwyrdd y Cyngor.
- Adrodd amdano – rhowch wybod am unrhyw rywogaethau goresgynnol estron rydych chi'n eu gweld yn y gwyllt drwy Ap LERC Cymru a Mapiwr INNS
Dolenni ychwanegol:
Action for Nature Gardeners and AllotmenteersRhwydwaith Ecolegol Cadarn CymruGB Non-native Species Secretariat – What can I do?Llywodraeth San Steffan: How to stop invasive non-native plants from spreading