Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Skip to main content
Toggle Menu
Dewislen
www.RCTCBC.gov.uk
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
Swyddi
English
Search
Browser does not support script.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Melyn ar gyfer glawr rhwng 7am a hanner nos ddydd Mawrth 11 Tachwedd.
Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.
Hafan
Trigolion
Rheoli Cynllunio ac Adeiladu
Invasive Species
Canclwm Japan ar dir preifat
Dim ond rheoli Canclwm Japan sy'n tyfu ar dir sy'n eiddo iddo y mae'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol amdano. Nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol na'r awdurdod i drin tir preifat neu dir heb ei gofrestru. Mae'r cyfrifoldeb am reoli Canclwm Japan bron bob amser yn nwylo'r Tirfeddiannwr oni bai bod y Lesddeiliad yn gyfrifol am reoli'r tir.
Yn 2023, cyhoeddodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ddeddfwriaeth newydd ar gyfer Canclwm Japan a dylid dilyn y weithdrefn ganlynol wrth ddelio â Chanclwm Japan ar dir preifat sy'n effeithio ar eiddo cyfagos:
Lle mae Canclwm Japan yn bresennol ar dir preifat, rhaid i'r sawl sy'n adrodd amdano gysylltu â pherchennog y tir yn gyntaf trwy lythyr i'w hysbysu am y Canclwm Japan, a thrafod yr opsiwn o roi cynllun triniaeth ar waith i gael gwared ar y Canclwm. Os nad yw hyn yn opsiwn, h.y. os nad oes neb yn byw yn yr eiddo, os nad oes manylion am berchennog y tir (os yw wedi'i rentu) ar wefan y gofrestrfa tir, neu os yw perchennog y tir yn gwrthod edrych ar yr opsiwn yma, yna bydd angen i'r sawl sy'n adrodd gysylltu â chwmni dibynadwy sy'n delio â Chanclwm Japan er mwyn drafftio adroddiad. Dylai'r adroddiad yma amlinellu'r categori y mae Canclwm Japan yn perthyn iddo o dan y ddeddfwriaeth newydd o fis Mawrth 2023.
Os yw'r Canclwm yn perthyn i'r categori "A" neu "B", yna mae modd i'r sawl sy'n adrodd e-bostio'r Adran Cymunedau Diogel ar
CymunedauDiogel@rctcbc.gov.uk
gyda thystiolaeth o'r adroddiad yn amlinellu'r categori y mae'r Canclwm yn perthyn iddo.
Yna, bydd modd i'r Adran Cymunedau Diogel roi cymorth gyda chamau pellach trwy lythyrau rhybuddio, Hysbysiadau Rhybudd Diogelu Cymunedau, Hysbysiadau Diogelu Cymunedau a Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Yn anffodus, does dim modd i'r Adran Cymunedau Diogel ymwneud ag unrhyw achosion o Ganclwm Japan ar dir preifat, nes bod gyda ni dystiolaeth o'r categori gan gwmni dibynadwy. Fydd yr Adran Cymunedau Diogel ddim yn ariannu unrhyw driniaeth ar gyfer Canclwm Japan sydd ar dir preifat.
Tudalennau Perthnasol
Ynglŷn â Rhywogaethau Goresgynnol
Rhaglen driniaeth flynyddol ar gyfer trin Canclwm Japan
Cwestiynau cyffredin am Rywogaethau Goresgynnol
Rhywogaethau Goresgynnol yn eich gardd
Canclwm Japan
Canclwm Japan a'r gyfraith
Rhoi gwybod am broblem gyda Chanclwm Japan ar dir y Cyngor
Rhowch gymorth inni wella
Alffa i Omega o'n Gwasanaethau
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.