Mae Canclwm Japan yn chwynnyn sy'n tyfu'n gyflym sy'n lledaenu ac yn llethu planhigion gardd eraill. Gall achosi difrod i strwythur adeiladau.Mae'n blanhigyn mor ddifrodol fel ei fod yn cael ei reoli gan y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon gadael i’r planhigyn yma ledaenu.Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio i Ganclwm Japan sy'n tyfu neu'n lledaenu ar dir sy'n eiddo iddo.
Os ydych chi am roi gwybod am Ganclwm Japan sy'n tyfu ar dir sy'n eiddo i’r Cyngor neu'n lledaenu oddi arno, mae modd i chi wneud hynny gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Bwriwch olwg ar ein tudalen Canclwm Japan ar dir preifat am ragor o wybodaeth os oes gyda chi bryderon am Ganclwm Japan yn tyfu ar:
- tir preifat neu dir heb ei gofrestru
- gerddi cyfagos,
- eiddo gwag,
- ar hyd traciau rheilffordd a glannau afonydd, ac ati.