Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Skip to main content
Toggle Menu
Dewislen
www.RCTCBC.gov.uk
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
Swyddi
English
Search
Browser does not support script.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Melyn ar gyfer glaw rhwng 6 am ddydd Gwener 14 Tachwedd a 6 am ddydd Sadwrn 15 Tachwedd.
Dyma cyngor i Drigolion a Busnesau.
Hafan
Trigolion
Rheoli Cynllunio ac Adeiladu
Invasive Species
Rhaglen driniaeth flynyddol ar gyfer trin Canclwm Japan
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am reoli Canclwm Japan sy'n tyfu ar dir sy'n eiddo iddo yn unig. Nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol na'r awdurdod i drin tir preifat, tir heb ei gofrestru na lonydd heb eu mabwysiadu. Mae'r cyfrifoldeb am reoli Canclwm Japan bron bob amser yn nwylo'r Tirfeddiannwr oni bai bod y Lesddeiliad yn gyfrifol am reoli'r tir.
Yr hyn rydyn ni'n delio ag ef
Pan fydd ymholiad cwsmer yn cael ei dderbyn gan y ganolfan alwadau neu drwy'r gwasanaeth gwefan ar-lein, bydd yn cael ei ddyrannu i'n swyddog Rhywogaethau Goresgynnol a fydd yn ymateb cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Unwaith y bydd ymweliad â'r safle wedi'i gynnal a gwiriadau i gadarnhau bod y Canclwm Japan ar dir y Cyngor, os yw hyn yn bygwth eiddo byddwn ni'n ychwanegu'r safle at ein rhaglen driniaeth.
Mae gan y Cyngor raglen driniaeth flynyddol ar gyfer Canclwm Japan. Rydyn ni'n dilyn canllawiau a osodwyd gan y Gymdeithas Gofal Eiddo (PCA) ac yn cynnal un driniaeth chwynladdwr ar ddiwedd y tymor tyfu, mae hyn wedi'i brofi fel yr amser mwyaf llwyddiannus i drin Canclwm Japan, pan fydd y planhigyn yn cymryd yr holl chwynladdwr i lawr i'w risomau.
Mae modd i ni gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch beth i'w wneud a beth i beidio â'i wneud os oes gyda chi Ganclwm Japan ar eich tir.
Mae modd i ni hefyd gynnig cyngor a gwybodaeth am Rywogaethau Goresgynnol cyffredin eraill, sef Ffromlys Chwarennog, Coeden Lawrgeirios a Rhododendron Wyllt.
Yr hyn nad ydyn ni'n delio ag ef:
Trin ar hyd glannau afonydd oni bai bod y tir yn cael ei reoli gan y Cyngor
Tir heb ei gofrestru a lonydd heb eu mabwysiadu
Gerddi preifat/wedi'u gadael
Am ymholiadau ynghylch gerddi preifat ac/neu erddi sydd wedi'u gadael, ewch i'n tudalen Canclwm Japan ar Dir Preifat
Canclwm Japan ar dir preifat
.
Tudalennau Perthnasol
Ynglŷn â Rhywogaethau Goresgynnol
Cwestiynau cyffredin am Rywogaethau Goresgynnol
Rhywogaethau Goresgynnol yn eich gardd
Canclwm Japan
Canclwm Japan a'r gyfraith
Canclwm Japan ar dir preifat
Rhoi gwybod am broblem gyda Chanclwm Japan ar dir y Cyngor
Rhowch gymorth inni wella
Alffa i Omega o'n Gwasanaethau
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.