Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Skip to main content
Toggle Menu
Dewislen
www.RCTCBC.gov.uk
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
Swyddi
English
Search
Browser does not support script.
Hafan
Trigolion
Rheoli Cynllunio ac Adeiladu
Invasive Species
Canclwm Japan
Wedi'i gyflwyno o Japan ym 1850, Canclwm Japan yw un o'r chwyn mwyaf niweidiol yn y DU. Yn ei gynefin brodorol, mae Canclwm Japan yn rhywogaeth arloesol a geir yn nodweddiadol ar Iarfa Folcanig. Ac yntau wedi'i atgenhedlu'n gyflym trwy ddarnau bach o'r rhisom, mae modd i chwyn Canclwm Japan dyfu hyd at 10cm y dydd ac mewn dim ond 10 wythnos, mae modd i'w goesau gyrraedd 3-4 metr o uchder.
Mae modd i Ganclwm Japan dyfu yn y rhan fwyaf (os nad pob un) o amodau pridd a geir yn y DU, er bod y rhywogaethau yma yn dangos hoffter cryf o gynefinoedd a wnaed gan ddyn. Mae cynefinoedd cyffredin lle mae clymog goresgynnol i'w cael yn cynnwys ar ymylon ffyrdd, tir gwastraff, argloddiau a thrychfeydd rheilffordd, tomenni rwbel mwyngloddiau ac ar lannau afonydd a nentydd. Mae'r planhigyn yn gyffredin ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno nifer o
Ddeddfau a rheoliadau Canclwm Japan
[RW1]
ynghylch rheoli, tyfu a chludo Canclwm Japan er mwyn amddiffyn perchnogion tai, busnesau a'r amgylchedd fel ei gilydd. Mae'r deddfau yma wedi'u rhoi ar waith yn araf dros y blynyddoedd mewn ymateb i ledaeniad cynyddol rhywogaethau planhigion goresgynnol yn y DU.
Oherwydd yr effeithiau negyddol ar amgylchedd ac economi'r DU, mae pob clymog goresgynnol wedi'u rhestru o dan Atodlen 9 o
Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
, sy'n golygu ei bod yn drosedd plannu neu achosi i'r planhigion yma dyfu yn y gwyllt. Nid yw'n drosedd ynddo'i hun cael Canclwm Japan yn tyfu ar eich tir, fodd bynnag, mae'n drosedd os ydych chi'n caniatáu i'r planhigyn ledaenu i dir cyfagos.
Mae'r planhigyn clymog wedi'i ddosbarthu fel 'deunydd gwastraff rheoledig' o dan
Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990,
sy'n golygu mai dim ond cludwr gwastraff cofrestredig all ei gludo i safleoedd sydd wedi'u trwyddedu neu wedi'u heithrio'n addas.
I adnabod Canclwm Japan, ewch i wefan
NNSS
.
Tudalennau Perthnasol
Ynglŷn â Rhywogaethau Goresgynnol
Rhaglen driniaeth flynyddol ar gyfer trin Canclwm Japan
Cwestiynau cyffredin am Rywogaethau Goresgynnol
Rhywogaethau Goresgynnol yn eich gardd
Canclwm Japan a'r gyfraith
Canclwm Japan ar dir preifat
Rhoi gwybod am broblem gyda Chanclwm Japan ar dir y Cyngor
Rhowch gymorth inni wella
Alffa i Omega o'n Gwasanaethau
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.