Mae Canolfan Wybodaeth am Eiddo'r Cyngor yn ymdrin ag ymholiadau o ran tir ac eiddo yn Rhondda Cynon Taf.
Mae modd ichi holi ynghylch pwy sy'n berchen ar dir a safleoedd trwy e-bost neu drwy'r post:
E-bost: GwybodaethEiddo@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Post:
Eiddo'r Cyngor
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn:: 01443 281189
Cofiwch gynnwys manylion am leoliad y tir neu'r eiddo. Mae modd i chi gynnwys braslun os bydd hyn yn helpu gyda'r chwiliad.
Os yw'r Cyngor yn berchen ar yr eiddo neu'r tir byddwn ni'n cysylltu â chi i gadarnhau hyn. Os nad y Cyngor sy'n berchen ar yr eiddo neu'r tir, ac nid ydyn ni'n gwybod pwy yw'r perchennog, byddwn ni'n cadarnhau hyn a bydd modd i chi gysylltu â Chofrestrfa Tir Cymru.
Beth os ydw i eisiau gwybod pwy sy'n berchen ar eiddo preifat?
Cysylltwch â Chofrestrfa Tir Cymru i gael y ffurflen ymholiadau berthnasol.
Ni fydd modd i'r Gofrestrfa Tir eich cynorthwyo os bydd hi'n ymddangos bod y tir dan sylw heb ei gofrestru, ac os felly, efallai y byddwch chi eisiau gwneud ymholiadau yn lleol gyda chymdogion.
Sut ydw i'n prynu, prydlesu neu rentu eiddo neu ddarn o dir y mae gyda fi ddiddordeb ynddo?
Ysgrifennwch i Adran Eiddo'r Cyngor, neu e-bostiwch yr adran, gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod. Esboniwch yn fyr y rheswm dros eich diddordeb mewn prynu'r eiddo neu ddarn o dir, a chofiwch gynnwys braslun sy'n nodi'r eiddo neu'r tir.
Bydd ymholiadau yn cael eu gwneud gydag Is-adrannau eraill y Cyngor i ganfod a yw'r Cyngor angen yr eiddo neu'r tir mwyach, neu a oes modd cael gwared arnyn nhw neu eu prydlesu neu eu rhentu.
Mae'r broses yma'n gallu bod yn un hir, ond rydyn ni'n monitro'r broses ar bob cam i sicrhau ein bod ni'n rhoi gwybod i chi cyn gynted ag sy'n bosibl.
Nodwch, os bydd eiddo neu ddarn o dir yn cael ei waredu, ei brydlesu neu ei rentu gan y Cyngor, fel arfer bydd raid ei hysbysebu ar y farchnad agored. Byddwn ni'n rhoi gwybod ichi os mai dyma'r achos.
Sut ydw i'n rhoi gwybod am lwyni, coed neu isdyfiant sydd wedi tyfu'n wyllt ar dir neu lwybrau troed?
Mae modd i chi adrodd am hyn drwy ffonio:
01443 425001
Pwy sy'n berchen ar y ffens neu'r wal ffin yma?
Mae modd ichi holi ynghylch pwy sy'n berchen ar ffens neu wal ffin drwy e-bost neu'r post:
E-bost: GwybodaethEiddo@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Post:
Eiddo'r Cyngor
Canolfan Menter y Cymoedd,
Parc Hen Lofa'r Navigation,
Abercynon
CF45 4SN
Ffôn: 01443 281189
Cofiwch gynnwys manylion lleoliad y tir neu'r eiddo. Mae modd i chi gynnwys braslun os bydd hyn yn helpu gyda'r chwiliad.
Os mai'r Cyngor sy'n berchen ar y ffin byddwn ni'n cysylltu â chi i gadarnhau hyn. Os nad y Cyngor sy'n berchen ar y ffin, ac nid ydyn ni'n gwybod pwy yw'r perchennog, byddwn ni'n cadarnhau hyn a bydd modd i chi gysylltu â Chofrestrfa Tir Cymru.