Skip to main content

Clefyd (Chalara) coed ynn

Beth yw Clefyd (Chalara) Coed Ynn?

Mae clefyd coed ynn yn afiechyd difrifol mewn coed ynn ac mae'n cael ei achosi gan ffwng (Hymenoscyphus Fraxineus). Mae'r clefyd yn lledu yn y DU gan achosi coed i golli dail a'u corunau wywo ac mae modd iddo arwain at farwolaeth y goeden.

Yr Egwyddorion Arweiniol

Mae modd i'r clefyd gael effaith enfawr ar ein poblogaeth bresennol o goed ynn. Ein nod yw mynd i'r afael yn effeithiol â'r risgiau a achosir gan y clefyd a gwarchod bioddiogelwch.

Does dim unrhyw ganllawiau cenedlaethol na rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru na Cyfoeth Naturiol Cymru i awdurdodau lleol na pherchnogion tir ynghylch 'clefyd (Chalara) coed ynn' felly rydyn ni'n ymdrin â phob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun ac yn torri coed i uchder diogel sy'n dangos clefyd (Chalara) coed ynn sylweddol. Rydyn ni hefyd yn cael gwared ar goed sydd wedi'u heffeithio dros 50% yn unol ag argymhellion y Cyngor Coed. Cafodd yr wybodaeth yma ei chyhoeddi yn 2019.

Beth mae RhCT yn ei wneud am y clefyd?

Rydyn ni'n mabwysiadu dull gweithredu wedi'i gynllunio gan weithio trwy raglen o waith coed, i fynd i'r afael â'r clefyd a chyda coed sy'n crogi dros ein holl brif ffyrdd ac i glirio goleuadau stryd.

Mae ein rhaglen rheoli coed yn anelu at gwblhau'r holl waith ar ffyrdd A yn ystod 2022, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n effeithio ar ffyrdd B. Yr ail gam fydd cwblhau'r holl ffyrdd B erbyn diwedd 2023. Byddwn ni'n parhau â'r gwaith coed ar hyd ein priffyrdd dros yr ychydig fisoedd nesaf er mwyn cael gwared ar goed ynn sydd wedi'u heffeithio ac unrhyw goed eraill sydd wedi marw neu eu heintio.

Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra sy'n cael ei achosi gan y cynllun rheoli traffig fydd ar waith dros dro tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Rheoli Clefyd (Chalara) Coed Ynn mewn ardaloedd lle mae risg uchel

Byddwn ni ar bob achlysur yn mynd i'r afael ag unrhyw goed sydd wedi marw, rhai sydd wedi eu heintio neu sy'n beryglus, gan gynnwys coed ynn â chlefyd Chalara, a sicrhau bod camau gweithredu'n cael eu blaenoriaethu pan fyddan nhw'n cael eu nodi'n risg i'r cyhoedd neu i'n priffyrdd.

Mae Cyngor RhCT wedi comisiynau arolygon coed er mwyn nodi coed sydd ag afiechydon neu sydd mewn cyflwr gwael sy'n tyfu mewn mannau cyhoeddus agored ac mewn ardaloedd lle mae risg uchel.  Mae'r rhain yn cael eu cofnodi ar gyfer camau gweithredu a argymhellir ar gyfer y dyfodol ac at ddibenion monitro.

Atal y Lledaeniad ac Adfer

Rydyn ni'n cymryd agwedd gadarn a rhagofalus i leihau effaith y clefyd yma yn y fwrdeistref. Mae gwastraff o waith ar goed ynn sy'n dioddef o'r clefyd, megis canghennau a malurion deiliog, yn cael eu casglu yn unol â chanllawiau bioddiogelwch i atal lledaeniad.

Mae Cyngor RhCT wedi rhoi rhaglen plannu coed ar waith ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn lleddfu rhywfaint ar effaith torri coed yn sgil y clefyd ac yn gwrthbwyso colledion coed.  Bydd y rhain, ynghyd â chynlluniau plannu coed eraill fel cynllun Canopi’r Frenhines, yn sicrhau ein bod ni'n parhau i blannu coed yn RhCT ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhoi gwybod am eich pryderon am Glefyd (Chalara) Coed Ynn

I roi gwybod am unrhyw dystiolaeth o glefyd ynn mewn coed sy'n tyfu ar dir y Cyngor, cysylltwch â'r Cyngor a byddwn yn ychwanegu'r lleoliad i'n rhestr o safleoedd i'w harchwilio.

Mynegwch eich pryderon am goed sy'n tyfu ar dir preifat yn uniongyrchol i'r tirfeddiannwr. 

I holi pwy yw'r tirfeddiannwr bydd angen i chi ffonio cofrestrfa tir EM ar 0300 006 0411 neu ddilyn y ddolen ganlynol; Chwilio`r Gofrestr

 

Rhagor o wybodaeth:

Canllawiau'r Cyngor Coed ar Glefyd (Chalara) Coed Ynn 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ymchwil coedwig