Skip to main content

Plannu Coed

Rydyn ni'n sylweddoli bod mater y newid yn yr hinsawdd ar frig yr agenda i lawer o bobl ac rydyn ni'n gweithio’n galed i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gwaith tocio/torri coed, y mae’n rhaid ei wneud am resymau iechyd a diogelwch, a phlannu coed i wrthbwyso'r newid yn yr hinsawdd.

Mae rhagor o goed i'w plannu ledled y fwrdeistref yn flynyddol, er budd pawb ac yn rhan o'n menter newid yn yr hinsawdd i wella a chynyddu stociau coed fel asedau ar gyfer dal a storio carbon a datblygu cynaliadwy.

Yn ystod y 24 mis diwethaf, sicrhaodd y Cyngor grant gan Lywodraeth Cymru i blannu dros 350 o goed mewn parciau, mynwentydd a mannau agored er mwyn lliniaru rhywfaint ar y gwaith torri coed sy’n gorfod digwydd ar draws y fwrdeistref sirol ac i wella amodau byw yn ein tirwedd drefol.

Yn ogystal â’r cyllid yma, mae gan ein Hadran y Parciau raglen plannu coed flynyddol er mwyn sicrhau bod coeden newydd yn cael ei phlannu yn lle unrhyw goeden sy’n cael ei thorri oherwydd ei hoedran neu ei chyflwr.

Ar ein safleoedd cefn gwlad a'n llethrau, rydyn ni'n annog aildyfiant naturiol coed sy'n cynnig llawer o fanteision megis sicrhau bod y goeden gywir yn tyfu yn y lle cywir am y rheswm cywir. Mae hyn yn sicrhau'r canlynol:

  • llai o ôl troed carbon – drwy beidio â chludo stoc a allai fethu i'r safle;
  • peidio â defnyddio tiwbiau plastig a allai greu sbwriel yn ein cefn gwlad wedyn.

Ein ffocws ar gyfer y dyfodol yw gwella’r dirwedd drefol, gan edrych ar sut mae modd i ni blannu rhagor o goed yn ein trefi a’n pentrefi, er mwyn gwella amodau byw i drigolion yn ogystal â chreu amgylchedd gwell ar gyfer ein bywyd gwyllt trefol.

Byddwn ni'n plannu rhagor o goed mewn mannau agored mewn ardaloedd trefol yn flynyddol, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau, trigolion a bywyd gwyllt yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd coed eu plannu ar draws RhCT yn ystod 2022, yn rhan o Gynllun Plannu Coed Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Hoffech chi blannu coeden yn Rhondda Cynon Taf?

Bydd angen y canlynol ar unrhyw unigolion neu aelodau o'r cyhoedd sydd eisiau plannu coed ar dir Cyngor RhCT:

  • Rhestr rhywogaethau o goed arfaethedig i'w plannu;
  • Map yn nodi'r ardal/cynllun lleoliad.

Bydd angen gwirio bod unrhyw goed sydd ddim yn cael eu plannu gennyn ni, ond ar ein tir, yn cydymffurfio â'r canlynol:

  • Stoc goed o darddiad lleol;
  • Rhywogaethau brodorol neu rywogaethau anfrodorol anymledol;
  • Bod y rhywogaethau'n addas ar gyfer y lleoliad sy'n cael ei gynnig;
  • Eu bod ddim yn cael effaith andwyol ar briffyrdd o ran draenio, lleiniau gweld ac ati;
  • Bydd angen rhoi gwybod i adran Gofal y Strydoedd o ran cynnal a chadw'r ardal, torri gwair, ac ati.
  • Er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’n cynllun rheoli Bioamrywiaeth a Blodau Gwyllt:
  • Mewn coetir sy'n dod o dan Orchymyn Cadw Coed;
  • O fewn ardal cadwraeth cynllunio.

Dim ond ychydig iawn o waith cynnal a chadw y byddem ni'n ei wneud ar y coed a blannwyd. Bydd hyn yn cynnwys y gwaith canlynol:

  • Torri gwair;
  • Gosod stanciau a thynnu stanciau pan fo'r coed wedi tyfu'n ddigon mawr;
  • Tocio neu dorri yn y dyfodol os oes angen.

 Fyddwn ni ddim yn ad-dalu unrhyw golledion nac yn gwneud unrhyw waith cynnal a chadw arall a fyddai'n cymryd amser neu arian y Cyngor.

Rydyn ni'n cadw'r hawl i dorri, tynnu, neu docio unrhyw goed a blannwyd ar ein tir, os bydd angen, am unrhyw reswm.

Dydy coed addurniadol bach ddim fel arfer yn broblem os ydyn nhw'n cael eu plannu mewn lleoliad trefol.

Os yw’r lleoliad lle rydych chi'n bwriadu plannu ar dir Cyngor Cymuned, mae modd i chi gysylltu’n uniongyrchol â nhw a hefyd i drafod cyfrifoldeb am gynnal a chadw parhaus.

Os hoffech chi blannu coeden Cysylltu â'r Cyngor 

DIOLCH

Deunydd cyfeiriol:

Newid yn yr Hinsawdd: Mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT 

Plannu Coed: Cyhoeddi Buddsoddiad o £50,000 ar gyfer Plannu Coed yn RhCT 

Bioamrywiaeth: Bioamrywiaeth yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk) 

Coed Peryglus RhCT

Cofrestrfa Tir: https://www.gov.uk/cael-gwybodaeth-am-eiddo-a-thir neu ffoniwch 0300 006 0411.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Torri Coed 

Canllawiau am Orchmynion Diogelu Coed ac adar yn nythu

Y Gymdeithas Goedyddiaeth: (cymorth I berchnogion coed https://www.trees.org.uk/Help-Advice/Help-for-Tree-Owners

Ardaloedd Cadwraeth