Skip to main content

Gwastraff Anifeiliaid ac Anifeiliaid Anwes

Sut i gael gwared ar wastraff anifeiliaid ar gyfer cŵn, cathod, ceffylau ac anifeiliaid anwes eraill.

Cŵn

Rhai rhoi baw ci mewn bag, ei glymu a'i roi yn eich bag du.

Peidiwch â'i gompostio.

Cathod

Rhaid rhoi baw a gwasarn cathod mewn bag, ei glymu a'i roi yn eich bag du.

Peidiwch â'i gompostio.

Mae gwasarn cathod yn drwm a gall hyn ei wneud yn anodd cario'ch bagiau du.  Gwnewch gais am lwfans bag du ychwanegol fel bod modd i chi lenwi'r bagiau du yn hanner llawn a'u gwneud yn fwy diogel i'w cario i'ch man casglu. 

Mae modd i chi hefyd fynd â hyd at 3 bag o wasarn cathod fesul pob ymweliad i'r rhan fwyaf o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Cwningod, bochdewion, moch cwta ac anifeiliaid bach eraill

Mae modd ailgylchu gwely blawd llif anifeiliaid cwt bach yn eich sach gwastraff gwyrdd. Cofrestrwch am gasgliadau gwastraf gwyrdd.

Ceffylau, merlod a da byw

Dylech chi gompostio tail mewn storfa tail sydd wedi'i hadeiladu'n gywir neu ei roi i grŵp rhandiroedd lleol.

Anifeiliaid anwes eraill a gwastraff anifeiliaid fferm

Mae modd i chi gompostio gwastraff anifeiliaid fferm neu ei roi yn eich bag du.

Dylech chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid egsotig fel croen wedi'i rwygo, unrhyw wellt gwely ac unrhyw faw yn eich bin compost neu'ch bag du.

Bwyd anifeiliaid anwes

Mae modd rhoi bwyd sych anifeiliaid anwes yn eich cadi gwastraff bwyd neu fin compost eich cartref.  Rhaid rhoi bwyd gwlyb anifeiliaid anwes yn eich bin gwastraff bwyd.

Peidiwch â rhoi'r deunydd pecynnu yn y bin.