Skip to main content

CELF A CHREFFT AT DDIBEN LLES

Uwchgylchu Dillad

Dysgwch sgiliau gwnïo defnyddiol wrth ailwampio a defnyddio dillad a thecstilau cartref y byddech chi’n cael gwared â nhw fel arall. Gallwch hemio neu addasu’ch dillad, yn ogystal â’u trwsio. Rhowch gynnig ar greu teganau, anrhegion, bagiau a chrefftau eraill hefyd.
Mae hwn yn gwrs difyr a chymdeithasol ar gyfer dechreuwyr, y rheiny sydd am wella’u sgiliau a’r rheiny sy’n mwynhau bod yn greadigol!

 Kath Evans

Sgiliau Gwnïo

Dysgwch sut i ddefnyddio peiriant gwnïo neu wella’ch sgiliau ymhellach. Ewch ati i greu crefftau a dillad syml, neu ddysgu sut i addasu a thrwsio’ch eitemau. Dyma gyfle gwych i rannu syniadau a dysgu gan eraill. P’un a oes gyda chi brofiad blaenorol ai peidio - dyma gwrs sy’n addas i bawb.

 Kath Evans

Cyfryngau Cymysg

euni, adlewyrchiad a siapiau naturiol. Gallwch weithio ar eich liwt eich hun a rhannu’ch creadigrwydd ac argymhellion gydag eraill.
Mae croeso i bawb, p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus igael hoe fach i chi’ch hun. Dewch â’ch llyfr braslunio os oes gyda chi un.

 Juliette Salter

Crefftau Tymhorol

Cyfle i fod yn greadigol gyda phob math o ddeunyddiau, gan gynnwys tecstiliau, papur, clai a deunyddiau wedi’u hailgylchu.
Dewch i greu anrhegion ac addurniadau tymhorol ar gyfer pob achlysur. Cewch hefyd fwynhau rhannu’ch syniadau a’ch sgiliau yn ein gweithdai cefnogol a hamddenol. Mae croeso cynnes i bawb!

Kath Evans

Braslunio

Dewch i ddysgu sut i fraslunio gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, a deall sut i drin gwrthychau gwahanol, megis. eitemau llonydd, anifeiliiad, wynebau a thirluniau. Byddwn ni’n trafod ffurfiau, siapiau, perspectif, lliwiau a gwead. Dyma gwrs diddorol i bawb, ewch amdani!

 Kath Evans

Dyfrlliw

Byddwch chi’n dysgu amrywiaeth o dechnegau dyfrlliw i greu prosiect ar thema o’ch dewis chi.

Juliette Salter

Celf Tir

Dewch i fwynhau defnyddio deunyddiau celf amrywiol mewn dosbarth cyfeillgar a chefnogol yn harddwch Parc Ynysangharad, Pontypridd.
Rhowch gynnig ar fraslunio neu ddefnyddio paent dyfrlliw, pastels neu baent acrylig i efelychu lliw, goleuni, adlewyrchiad a siapiau naturiol. Gallwch weithio ar eich liwt eich hun a rhannu’ch creadigrwydd ac argymhellion gydag eraill.
Mae croeso i bawb, p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i gael hoe fach I chi’ch hun. Dewch â’ch llyfr braslunio os oes gyda chi un.

Kath Evans

Celf Gain

Dewch i ddysgu am arddulliau Celf Gain drwy drafod, arbrofi â gwaith celf a chyflawni gweithgareddau braslunio. Byddwn ni’n edrych ar Giwbiaeth, Argraffiadaeth, Gwaith Haniaethol a llawer yn rhagor, gan astudio gweithiau enwog mewn amryiwaeth o gyfryngau. Cwrs difyr ac arbrofol!

 Kath Evans

 

Am ddyddiadau ac amseroedd cyrsiau cliciwch isod