Hanes y Teulu
Mae’r cwrs yma’n defnyddio “Ancestry” a “Find my Past” er mwyn eich helpu chi i hel achau. Byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio cofnodion ymchwil megis cofnodion plwyf, cofrestrau etholiadol a ffurflenni cyfrifiad, yn ogystal â sut i archebu tystysgrifau a defnyddio tystiolaeth o bapurau newydd er mwyn dod o hyd I aelodau’ch teulu. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi syniad gwell i chi o amodau byw eich hynafiaid.
Byddwn ni’n dod i ddeall sut mae modd defnyddio elfennau o’n DNA i hel achau a sut mae hyn yn effeithio ar waith yn y maes.
Lisa Powell
Hanes Lleol
Dysgwch am hanes De Cymru a’r ardal leol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a’r cyfnod dilynol.
Bydd y pynciau y byddwn ni’n eu trafod yn cynnwys hanes gwleidyddol a chymdeithasol, effeithiau economaidd a newidiadau diwylliannol. Byddwn ni’n defnyddio ffynonellau cynradd ac eilradd i drafod y pynciau dan sylw. Bydd y cwrs yn croesawu siaradwyr gwadd ac yn mynd ar deithiau, gan fynd ati i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell gyfeirio hefyd.
Lisa Powell
Hanes Celf
Dysgwch am waith artistiaid sy’n gysylltiedig â Chymru a’I hanes, o bortreadau i dirluniau.Byddwch chi’n ystyried dylanwad arlunwyr eraill a’r tueddiadau artistig sydd ynghlwm â chyfnodau hanesyddol gwahanol.
Lisa Powell
Am ddyddiadau ac amseroedd cyrsiau cliciwch isod