Celf er Lles
Ymlaciwch a mwynhewch ddefnyddio deunyddiau celf gwahanol mewn dosbarth cyfeillgar a chefnogol mewn adeilad wedi’i leoli ym Mharc hyfryd Pontypridd.
Rhowch gynnig ar wahanol gyfryngau a gweithio ar eich cyflymder eich hun. Mae croeso i bawb - dechreuwyr a’r rheiny sydd eisiau amser i fod yn greadigol.
Celfyddydau Cain er Lles
Mae Celfyddydau Cain er Lles yn cyfuno defnydd creadigol dulliau a deunyddiau celf ag ymlacio a myfyrio ac yn cynnig amser i ddatblygu eich prosiectau celf personol â chymorth arbenigol.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Ymateb i natur a ffurfiau naturiol.
- Peintio wrth wrando ar gerddoriaeth.
- Defnyddio geiriau a llenyddiaeth fel man cychwyn ar gyfer eich gwaith celf.
- Archwilio gwneud marciau mewn cyfryngau sych a gwlyb.
- Meddwl am seicoleg lliw a sut mae’n ymwneud â hwyliau.
Canu er budd Iechyd
Dewch i ganu’n rhan o grŵp cyfeillgar a hamddenol i gyfeiliant gitâr. Bydd yn cynnwys ymarferion anadlu a sesiynau cynhesu’r llais cyn canu ystod eang o ganeuon. Does dim angen profiad blaenorol.
Meddylgarwch
Mae meddylgarwch yn cynnig y gofod a’r profiad i fod yn fwy ymwybyddol ofalgar, gan rannu awgrymiadau ac ymarfer gyda phobl o’r un anian.
Deffrwch eich synhwyrau a thalu sylw i’ch meddwl a’ch corff er mwyn gwneud y gorau o’ch profiadau dyddiol. Mae yna themâu gwahanol bob wythnos a thasgau i’w cyflawni gartref i gefnogi’ch lles, ar gyfer heddiw ac i’w defnyddio yn y dyfodol.
Mewnwelediad i Les
Meddwl iach, corff iach. Mae’r cwrs yma’n gyfle i chi gwrdd â phobl eraill a myfyrio ar eich iechyd. Cewch awgrymiadau a chymhelliant i fyw bywyd iachach.
Aromatherapi
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o sut i gymysgu olewau hanfodol ar gyfer tylino aromatherapi.
For course dates, times and venues.