iPad yn unig
Ar y cwrs yma byddwch chi’n dysgu sut i fwynhau defnyddio’ch iPad a dod o hyd i
awgrymiadau, triciau a thechnegau i wneud argraff ar eich ffrindiau a’ch teulu.
Mae’r cwrs yma’n berffaith os mai dyma’ch iPad cyntaf neu os ydych chi wedi cael un ers tro. Mae modd defnyddio’r iPad i wneud llawer o bethau, megis; chwilio’r rhyngrwyd, pori drwy negeseuon e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol, darllen llyfr, gwrando ar gerddoriaeth a phodlediadau, chwarae gemau, gwylio ffilmiau, rhaglenni teledu a fideos YouTube, tynnu lluniau a’u trefnu mewn albwm a rhagor.
iPads, llechi a ffonau clyfar
Ay cwrs yma byddwch chi’n dysgu sut i:
- Gwella eich hyder wrth ddefnyddio iPad, llechen Android neu ffôn clyfar
- Deall sut i lawrlwytho apiau
- Defnyddio gwahanol apiau ynghyd â deall terminoleg ddigidol a sut i gadw’ch dyfais ddigidol yn ddiogel
P’un a oes gyda chi ddyfais ddigidol dydych chi ddim yn ei defnyddio neu os hoffech chi ddysgu rhagor amdani, bydd y cwrs yma’n eich helpu i wneud hynny.
Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr
Hyd yn oed os ydych chi wedi dysgu eich hunan ac yn defnyddio Microsoft Word yn barod, bydd cyfle ichi ddysgu pethau ffyrdd haws i wneud pethau ar y bysellfwrdd a chyflawni’r hyn rydych chi’n ei ddymuno.
Bydd y cwrs yma’n eich helpu i:
- Creu dogfennau Microsoft Word
- Ymgyfarwyddo â’r ffordd mae popeth yn edrych ar y sgrin
- Dylunio’ch dogfennau chwaethus eich hun
- Deall terminoleg
- Ychwanegu testun a delweddau
- Newid testun, arddull a lliw
Photoshop i Ddechreuwyr
Dysgwch sut i olygu eich ffotograffiaeth i wneud i’ch delweddau edrych yn fwy proffesiynol a chael hwyl wrth ddysgu sut i drin delweddau. Dyma ffordd wych o wella eich sgiliau digidol a chreadigol.
Byddwn ni’n defnyddio Adobe Photoshop, ond mae modd i chi ddod â’ch iPad a’ch Ffôn Clyfar eich hun gyda chi hefyd.
For course dates, times and venues.