Gitâr: Dechreuwyr
Darganfyddwch dalent newydd gyda’n Gwersi Gitâr i Ddechreuwyr! Os ydych chi wedi breuddwydio am ganu eich hoff gân ar gitâr neu eisiau dysgu sgil newydd, dyma’r cyfle perffaith i roi cynnig ar yr offeryn yma.
Dim profiad blaenorol? Dim problem! Byddwch chi’n teimlo’n gartrefol mewn amgylchedd dysgu cynhwysol wrth ichi gysylltu â phobl eraill sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth.
Gitâr: Gwella’ch sgiliau
Ar gyfer chwaraewyr sydd eisoes yn adnabod ychydig o gordiau, mae’r cwrs yma’n cynnig amgylchedd cefnogol gyda llyfr caneuon pwrpasol, fideos ar-lein a grŵp o gyfoedion cyfeillgar.
Dysgwch hyd at ddeg cân y tymor a gwella eich chwarae drwy jamio gydag ensemble.
Gwych i gitarwyr sydd am wella neu sydd eisiau chwarae caneuon gyda phobl o’r un anian.
Gwallt a Harddwch
Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwallt a harddwch? Dewch draw i ddysgu sgiliau newydd i roi hwb i’ch hyder.
For course dates, times and venues.