Sut i gyflwyno cais
Caiff rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fynegi eu dewis wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant.
Mae manylion yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ar gael yn y llyfryn 'Dechrau'r Ysgol'. Mae modd cael manylion am ysgolion dalgylch drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio dalgylchoedd.
Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le meithrin. Caiff rhieni wneud cais ar-lein am le mewn dosbarth meithrin. Mae gwneud cais ar-lein yn syml. Dilynwch y camau yma:
- Ewch i oneonline.rctcbc.gov.uk
- Ymgofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i'w gweld ar-lein.
Os nad oes cyfrifiadur gyda chi, cewch ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Neu, cewch lenwi ffurflen gais bapur drwy gysylltu â'r garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 281111.
Edrychwch hefyd ar y 'Canllawiau - Ffurflenni Derbyn Disgyblion'
Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.
Does dim rhwymedigaeth ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddarparu lleoedd ar gyfer plant o oed cyn-feithrin ac o oed y Feithrin sydd ddim yn trigo ym Mwrdeistref Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Cyngor yn parhau i adolygu ac yn cadw'r hawl i ddiwygio ei weithdrefnau derbyn disgyblion ar gyfer addysg cyn-feithrin ac addysg feithrin anstatudol.
Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais
Nodwch y dyddiadau pwysig yn y tabl isod, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.
Cohort Derbyn
|
Oedran Disgyblion
|
Dosbarthu ffurflenni o (wythnos yn dechrau)
|
Anfon ffurflenni yn ôl erbyn
|
Anfon llythyron nodi penderfyniad
|
Dosbarth Meithrin Ysgol Gynradd
(h.y. 3 oed cyn 1 Medi 2025)
|
4 pen-blwydd yn cwympo rhwng:
1 Medi 2025 a 31 Awst 2026
|
2 Medi 2024
|
8 Tachwedd 2024
|
16 Ebrill 2025
|