Sut i gyflwyno cais
Caiff rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fynegi eu dewis wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant.
Mae manylion yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ar gael yn y llyfryn 'Dechrau'r Ysgol'. Mae modd cael manylion am ysgolion dalgylch drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio dalgylchoedd.
Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le mewn dosbarth derbyn. Caiff rhieni wneud cais ar-lein am le i’w plentyn mewn dosbarth meithrin. Mae gwneud cais ar-lein yn hawdd. Dilynwch y camau yma:
- Ewch i https://schooladmissions.rhondda-cynon-taff.gov.uk/
- Cofrestrwch â chyfeiriad e-bost dilys
- Dilynwch y cyfarwyddiadau
Os nad oes gyda chi fynediad i gyfrifiadur, ewch i un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf . Neu, cysylltwch â’r garfan Derbyn Disgyblion am ffurflen gais bapur drwy ffonio 01443 281111.
Edrychwch hefyd ar y 'Canllawiau - Ffurflenni Derbyn Disgyblion'.
Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.
Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais
Nodwch y dyddiadau pwysig yn y tabl isod, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.
Cohort Derbyn | Oedran Disgyblion | Ffurflenni Nodi Dewis ar gael(wythnos yn dechrau) | Ffurflenni nodi dewis i'w dychwelyd erbyn | Cyflwyno llythyron penderfynu |
Dosbarth Derbyn Ysgol Gynradd
(h.y. 4 oed cyn 1af Medi 2023)
|
5ed pen-blwydd yn cwympo rhwng:
1af Medi 2023 a 31ain Awst 2024
|
1 Medi 2022
|
12fed Tachwedd 2022
|
17fed Ebrill 2023
|