Beth ydw i angen ei wneud?
|
Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/09/2022 a 31/08/2023
|
Mae angen ichi wneud cais ar-lein am le mewn Dosbarth Derbyn ar gyfer mis Medi 2027.
|
Lleoedd mewn Dosbarthiadau Derbyn 2027 - ar gyfer disgyblion â dyddiadau geni rhwng 01/09/2022 a 31/08/2023.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2026 a 6 Tachwedd 2026.
- Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2027.
Cyflwyno cais
Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml.
Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud cais ar-lein.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau. Os nad oes gyda chi fynediad i'r cyfrifiadur/gliniadur eich hun, mae modd i chi ddefnyddio un am ddim yn un o'n Llyfrgelloedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol: