Skip to main content

Derbyn Disgyblion – Cwestiynau cyffredin

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin am ragor o wybodaeth ynglŷn â Derbyn Disgyblion i Ysgolion.

Y prif beth i chi ei gofio yw dydy hi ddim mor syml â nodi enw'ch plentyn ar restr yr ysgol leol, neu ysgol o'ch dewis, ac aros i'ch plentyn ddechrau pan fydd e/hi yn dair blwydd oed. Dydy hi ddim yn bosibl i chi, chwaith, fynd i unrhyw ysgol a disgwyl i'ch plentyn gael dechrau.

RHAID gwneud cais am leoedd mewn ysgolion erbyn dyddiadau cau penodol. Dyna'r GYFRAITH.

Erbyn hyn, dydy hi ddim yn bosibl i Benaethiaid Ysgol ddyrannu lleoedd yn eu hysgolion eu hunain, na chadw lleoedd, nac addo i rieni y bydd lle ar gael (ac yn ur un modd, does dim hawl gyda nhw wrthod lleoedd). Yn ôl y gyfraith, yr Awdurdod Lleol sy'n llwyr gyfrifol am ddyrannu lleoedd, ac mae eisiau i'r Garfan Derbyn Disgyblion gadarnhau lleoedd, ar bapur, cyn i unrhyw ddisgybl gael dechrau yn yr ysgol.

(Yr unig eithriad yw’r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (yr eglwysi) – dylech chi anfon ceisiadau am le yn yr ysgolion yma yn syth i'r ysgol).

Erbyn hyn, does dim hawl bendant gyda disgyblion sy’n byw yn nalgylch ysgol i le yn yr ysgol honno. Rhaid i rieni/cynhalwyr (gofalwyr) gyflwyno ffurflen gais a bydd yr Awdurdod Derbyn yn ystyried pob cais.

Sut mae gwneud cais am le mewn ysgol?

Mae'n dibynnu. Ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol gymuned, neu mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ysgol yr eglwysi)?

Os ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol dan ofal eglwys, mae eisiau gwneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol honno. Edrychwch yn y llyfryn Dechrau’r Ysgol

Ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol gymuned? Rhaid i chi lenwi ffurflen gais:

Dyma'r cyfleuster ar gyfer ceisiadau i ddisgyblion ddechrau yn y Dosbarth Meithrin, Dosbarth Derbyn, Babanod i Ysgol Iau/Gynradd ac i Flwyddyn 7 mewn Ysgol Uwchradd ar gyfer mis Medi 2024. Am ffurflen gais bapur, ffoniwch Garfan Materion Derbyn Disgyblion Cyngor Rhondda Cynon Taf ar 01443 281111 neu e-bostio derbyndisgyblion@rctcbc.gov.uk.

Cofiwch lenwi’r ffurflen sy’n berthnasol i’r grŵp blwyddyn y bydd eich plentyn yn dechrau ynddo ym mis Medi 2023.

Gweler hefyd y ‘Canllawiau – Ffurflenni Derbyn Disgyblion '

Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, peidiwch â llenwi ffurflen bapur. Gwnewch un o'r ddau. Peidiwch â gwneud y ddau. Byddwn ni’n prosesu ceisiadau hwyr, ond efallai bydd eich dewis ysgol yn llawn ac felly fyddai dim modd inni gynnig lle i’ch plentyn yno.

Does dim rhaid i’r Awdurdod fodloni’r dewis sydd wedi’i nodi ar y ffurflen gais. Bydd polisi derbyn plant yr Awdurdod gweler Llyfryn Dechrau’r Ysgol  yn pennu a fydd modd cynnig lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol ai peidio.

Cofiwch nodi gwybodaeth gywir ar y ffurflen gais. Mae gofyn i rieni/cynhalwyr gyflwyno tystiolaeth i ategu’r hyn maen nhw wedi’i nodi. Efallai byddwn ni’n defnyddio cronfeydd data eraill y Cyngor i gadarnhau’ch gwybodaeth yn ogystal.

Oes angen meddu ar Gyfrifoldeb Rhiant ar gyfer y plentyn er    mwyn gwneud cais am le mewn ysgol?

Caiff y rheiny a chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn unig wneud cais a bydd angen gwneud datganiad yn rhan o’r broses gwneud cais.  Fel rheol mae disgwyl i’r person yma fyw yn yr un cyfeiriad a’r plentyn a chyfeirir at y person yma fel rhiant at ddiberion derbyn disgyblion.  O safbwynt rhieni a chyfrifoldeb cyfartal dros blentyn, bydd y Cyngor yn gofyn iddyn nhw benderfynu pa riant ddylai gyflwyno’r cais.  Os nad oes modd i’r rhieni gytuno a does gan y naill neu’r llall ddim gorchymyn llys sy’n nodi pwy ddylai gyflwyno cais, bydd y Cyngor yn derbyn cais gan y rhiant sy’n derbyn Budd-dal Plant ar ran y plentyn.  Does dim modd i’r Cyngor ymyrryd mewn anghydfodau rhwng rhieni o ran cais am le mewn ysgol a bydd yn gofyn i rieni eu datrys yn breifat.

Beth os oes mwy o geisiadau yn dod i law nag sydd o leoedd gwag mewn unrhyw ysgol?

Dim ond lle i hyn-a-hyn o blant sydd gan bob ysgol. Y Nifer Derbyn yw’r enw am hyn. Mae’r nifer yma’n cael ei gyfri wrth ystyried faint o le sydd yn yr ysgol (capasiti ffisegol) ar gyfer y disgyblion.

Os yw nifer y ceisiadau am le yn is na Nifer Derbyn yr ysgol, bydd pob cais ar gyfer yr ysgol honno’n cael ei ganiatáu.

Os yw nifer y ceisiadau am le mewn ysgol yn uwch na Nifer Derbyn yr ysgol, bydd yr awdurdod lleol yn caniatáu plant yn y drefn flaenoriaeth isod:-

  1. Plant dan adain gofal y Cyngor (plant sy'n derbyn gofal cyhoeddus) a phlant sydd wedi bod dan adain gofal y Cyngor.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno ac sy'n byw yn yr un cartref â nhw pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol honno ym mis Medi'r flwyddyn dderbyn.
  3. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ond does dim brawd neu chwaer hŷn gyda nhw yn yr ysgol honno.
  4. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno ac sy'n byw yn yr un cartref â nhw pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol honno ym mis Medi'r flwyddyn y bydd y plant yn dechrau.
  5. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ac sydd heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno.

Er mwyn osgoi dryswch, mae'r cyfeiriad at "byw/cartref" yn golygu lleoliad y breswylfa mae'r plant yn byw ynddi.

Oni fydd digon o leoedd ar gyfer y plant sy’n dod o dan unrhyw un o’r categorïau blaenoriaeth uchod, bydd y lleoedd yn cael eu rhoi i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol. Bydd yr Awdurdod yn mesur y pellter yn ôl y daith gerdded fwyaf diogel a byr rhwng drws blaen y cartref a’r giât agosaf sydd ar agor yn yr ysgol.

Yn achos rhieni sy'n rhannu cyfrifoldeb gofalu am blentyn, y cyfeiriad ar gyfer talu Budd-dal Plant fydd y 'cartref'. Er tegwch i bawb sy’n cyflwyno ceisiadau, byddwn ni’n defnyddio meddalwedd Mapinfo yn unig i fesur y pellter. Fyddwn ni ddim yn rhoi ystyriaeth i unrhyw system arall.

Beth os nad ydw i'n cael cynnig lle yn fy newis ysgol?

Rydyn ni'n argymhell y dylech chi ddewis hyd at dair ysgol yn rhan o'ch cais, yn nhrefn blaenoriaeth.

Os na fu'n bosibl i dderbyn plentyn/plant i'r dewis cyntaf o ysgol, byddwn ni'n mynd ati i roi lle yn yr ail ddewis o ysgol. Os byddwch chi'n anfodlon ar y penderfyniad yma, bydd hawl gyda chi i gyflwyno apêl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Llyfryn "Dechrau'r Ysgol" .

Cofiwch, does dim gweithdrefnau cyflwyno apêl yn achos gwrthod cais am le cyn-feithrin neu'r feithrinfa, achos mai darpariaeth addysg anstatudol yw hon.

Sut mae gwneud cais am drosglwyddo i ysgol arall?

Mae ffurflenni trosglwyddo yn ystod y flwyddyn ar gael o bob ysgol.  Rhaid e-bostio pob cais trosglwyddo i schooladmissions@rctcbc.gov.uk

Bydd ceisiadau am drosglwyddo yn amodol ar yr un meini prawf derbyn â'r rheiny uchod.

Ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 yr ysgol uwchradd, rhaid siarad â phennaeth ysgol y mae'r plentyn yn mynd iddi ar hyn o bryd. Bydd y Pennaeth yn rhoi ffurflen 'bwriad i drosglwyddo ysgol' i ddechrau'r broses drosglwyddo. Dim ond ysgol bresennol eich plentyn fydd yn gallu darparu'r ffurflen 'Bwriad i drosglwyddo ysgol', sy rhaid eu cwblhau ar y cyd rhwng rhieni/cynhalwyr a'r ysgol.

Nodwch: Gall newid ysgol fod yn gam mawr i'ch plentyn, beth bynnag ei oedran. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector Uwchradd, yn enwedig pan fydd eich plentyn wedi cyrraedd Blwyddyn 10 neu 11, wedi dewis pynciau ac yn astudio ar gyfer arholiadau. Mae'n bosibl y bydd y dewisiadau, neu'r bwrdd arholi, sydd ar gael fod yn hollol wahanol yn yr ysgol arall, hyd yn oed os yw'r ysgol honno yn Rhondda Cynon Taf. Gall newid ysgol yn ystod y cyfnod yma gael effaith sylweddol ar gyflawniad eich plentyn yn yr arholiadau y bydd e/hi yn eu sefyll ym Mlwyddyn 11, megis TGAU, BTEC ac ati.

Pryd bydd eisiau i mi wneud cais?

Y cyngor gorau i rieni fyddai nodi'u dymuniad am le mewn ysgol benodol cyn gynted ag y bo modd. Bydd hi, felly, yn bosibl i Bennaeth yr ysgol anfon ffurflen gais atoch chi pan fydd hi'n briodol. Serch hynny, cofiwch fydd nodi'ch dymuniad i gael lle mewn unrhyw ysgol benodol ddim yn sicrhau lle yn yr ysgol honno; dydy lleoedd ddim yn cael eu dyrannu ar sail ‘y cyntaf i'r felin’.

Erbyn hyn, dydy hi ddim yn bosibl i Benaethiaid Ysgol ddyrannu lleoedd yn eu hysgolion eu hunain, na chadw lleoedd, nac addo i rieni y bydd lle ar gael (ac yn yr un modd, does dim hawl gyda nhw wrthod lleoedd). Bellach cyfrifoldeb llawn yr Awdurdod Lleol yw hyn, yn ôl y gyfraith, a rhaid dilyn y prosesau cyflwyno cais.

Bellach, bydd angen gwneud ceisiadau i ysgolion am dderbyn eich plentyn nifer o weithiau yn ystod ei yrfa addysg. Mae dyddiadau agor a chau ceisiadau am y cyfnodau penodol wedi’u nodi yn ein hamserlen ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion.

Nodwch y dyddiadau allweddol yn y tabl sydd wedi'i atodi, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.

Hoffwn i wneud cais ond rwy wedi colli’r dyddiad cau cyhoeddedig?

Dim ond ffurflenni cais sy’n cael eu derbyn erbyn y dyddiad cau sy wedi’i nodi y byddwn ni’n eu hystyried ar gyfer y cylch cyntaf o ddyrannu lleoedd.  Bydd ffurflenni sy’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried yn geisiadau hwyr.  Bydd ceisiadau hwyr dim ond yn cael eu derbyn gan yr Awdurdod Derbyn os bydd rheswm dilys yn cael ei roi e.e. os yw rhiant sengl wedi bod yn sal am gyfnod hir neu os yw teulu newydd symud i’r ardal.  Os bydd rheswm dilys, bydd Cais Hwyr yn cael ei dderbyn cyn belled ei fod yn dod i law cyn i leoedd gael eu cynnig yn yr ysgol/ysgolion o ddewis.  Bydd Ceisiadau Hwyr sy’n cael eu derbyn gan yr Awdurdod Derbyn yn cael eu prosesu ar ôl yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau waeth beth fo’r rheswm dros hwyrni’r cais.  Mae’n bosibl bydd ysgol o ddewis y rheiny sy’n anfon ceisiadau hwyr eisoes yn llawn.  Bydd ceisiadau hwyr yn destun i’r un meini prawf derbyn.

P'un yw f'ysgol ddalgylch leol?

Yn Rhondda Cynon Taf mae i bob ysgol ardal y mae hi’n ei gwasanaethu yn draddodiadol, sef ei dalgylch.  

Mae modd ichi weld dalgylch yr ysgolion trwy ddefnyddio’n Adnodd Chwilio Dalgylch Ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o rieni/cynhalwyr (gofalwyr) yn anfon eu plant i’r ysgol ‘leol’, ond mae gan rieni/cynhalwyr yr hawl i fynegi’u blaenoriaeth/dewis ar gyfer ysgol wahanol ar gyfer eu plentyn.

Pa ddogfennau sy'n dderbyniol fel prawf o gyfeiriad cartref?

Yr unig ddogfennau y byddwn ni’n eu derbyn yn dystiolaeth o’ch cyfeiriad cartref yw:-

  • Bil cyfleustod diweddar (nwy, dŵr neu drydan)
  • Datganiad Treth y Cyngor
  • Llythyr sy'n cadarnhau Budd-dal Plant/Credyd Treth oddi wrth yr adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Os yw cyfeiriad parhaol y plentyn yn newid ar ôl i gais gael ei gyflwyno, rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Os yw rhieni/cynhalwyr wedi symud tŷ o fewn y 6 mis diwethaf, rhaid i ni gael rhagor o dystiolaeth, sef:-

  • Trwydded yrru â llun sy’n nodi’r cyfeiriad newydd. Rhaid ei mynd â hi i Dŷ Trevithick yn unol â chais.
  • Os yw rhieni/cynhalwyr wedi gorfod symud tŷ yn sgil newid mewn amgylchiadau teuluol, e.e. ysgariad neu ymwahaniad cyfreithiol, yn rhaid cyflwyno dogfennau’r cyfreithiwr/llys yn unol â chais.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth am bolisi Derbyn Disgyblion i Ysgolion y Cyngor i'w chael yn y llyfryn Dechrau'r Ysgol|.

I weld gwybodaeth ynglŷn ag ysgol yn eich ardal gan gynnwys cyfeiriadau, rhifau ffôn ac enw a manylion y pennaeth, defnyddiwch ein gwasanaeth Chwilio Ysgol .

Bydd modd ichi weld dalgylch ysgol eich plentyn trwy ddefnyddio’n blwch chwilio ar-lein.

Os oes eisiau rhagor o wybodaeth arnoch chi am wneud cais ar-lein am le mewn ysgol, mynnwch giplowg ar ein taflen 'Ceisiadau ar-lein - Cwestiynau cyffredin.'

Manylion Cyswllt

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth a chyngor? Croeso i chi gysylltu â Charfan Materion Derbyn Disgyblion:-

Ffôn: 01443 281111

E-bost: derbyndisgyblion@rctcbc.gov.uk.