Mae Gwasanaethau Arlwyo RhCT yn darparu bwyd;en flasus a maethlon i holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni'n cynnig bwydlen dros ddwy wythnos o brydau poeth, ynghyd â bar salad dyddiol, bwydlen brechdanau/bageti ac opsiwn tatws drwy'u crwyn. Mae ein prydau yn cynnwys pwdin a diod. Mae pob ysgol yn cynnig bara gwenith cyflawn diderfyn ac yn ogystal â phwdin y dydd. Rydyn ni hefyd yn cynnig dewis cyfyngedig o iogwrt rhew, caws & cracers neu ffrwythau ffres bob dydd
Bwydlenni
*Oherwydd argaeledd cyflenwyr, mae'n bosibl bydd cynhyrchion yn newid.
Rydyn ni'n cynnig opsiynau llysieuol a fegan, ac yn cefnogi disgyblion ag anghenion dietegol a chrefyddol arbennig.
Nodwch: Rydyn ni'n prynu bwyd sydd heb ddatgan cnau fel cynhwysyn. Serch hynny, hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol, mae nifer o brosesau trin yn y gadwyn gyflenwi yn cyflwyno'r posibilrwydd y bydd olion yn parhau. Does dim modd i ni reoli'r bwydydd y mae cwsmeriaid eraill yn dod â nhw i mewn i'r safle bwyta.
Mae risg weddilliol yn parhau o ran bwyd wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Arlwyo RhCT felly 'gall gynnwys olion cnau neu elfennau sy'n deillio o gnau'. Dylai cwsmeriaid sydd ag alergedd cnau ystyried y risg cyn prynu/bwyta unrhyw fwydydd.
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Ym mis Medi 2022, dechreuodd y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar draws Cymru, gan gychwyn gyda disgyblion y dosbarth Derbyn. Mae'r polisi'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn Rhondda Cynon Taf, bydd y Cyngor yn parhau i gyflwyno'r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd:-
- Ar hyn o bryd, mae holl ddisgyblion dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1, a disgyblion cymwys dosbarth Meithrin, wedi cael cynnig prydau ysgol am ddim.
- O fis Ebrill 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blwyddyn 2.
- O fis Medi 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blynyddoedd 3 a 4.
- O fis Ebrill 2024, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blynyddoedd 5 a 6.
Cwestiynau Cyffredin - Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cwestiynau Cyffredinol – Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar gyfer Disgyblion Meithrin
Talu am eich cinio ysgol
Pryd Ysgol Gynradd – £2.70 y pryd
Gallwch bellach dalu ar-lein am brydau ysgol eich plentyn.
Mae ein prydau'n cydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau a Gofynion Maeth Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr
Pam ddylech chi ddewis prydau ysgol?
- Mae ein bwydlenni yn faethlon cytbwys ac o dan reolaeth
- Mae'n arbed amser i rieni/gwarcheidwaid
- Mae gan bob aelod o staff gymhwyster 'Hylendid Bwyd Sylfaenol', fan lleiaf
- Mae ein pecynnau cinio wedi'u gwneud yn ffres bob dydd ac yn cael eu cadw'n oer tan iddyn nhw gael eu gweini.
Newyddion
Cysylltwch â ni - gwasanaethauarlwyo@rctcbc.gov.uk