Bydd ystod wych o dros 70 o ddosbarthiadau ffitrwydd awyr agored yn cychwyn mewn lleoliadau Hamdden am Oes ar draws Rhondda Cynon Taf ddydd Llun 26 Ebrill.
Gyda'r dosbarth cynharaf yn dechrau am 6.30am a'r dosbarth hwyraf yn dechrau am 7pm, bydd rhywbeth sy’n gyfleus i bawb.
Mae modd i chi ddewis o blith ystod o weithgareddau gan gynnwys Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT), ioga, Pwysau Kettlebells, dosbarth ymarfer dwys ac ymarferion cylch ym mannau awyr agored y cyfleusterau Hamdden am Oes.
Y ffordd hawsaf o ddewis dosbarth a chadw lle yw lawrlwytho'r Ap Hamdden am Oes. O wneud hyn, byddwch chi'n cael hysbysiadau ynglŷn â'r dosbarthiadau mwyaf diweddar am y llefydd sydd ar ôl. O'r Ap, bydd modd i chi hefyd gadw lle ar-lein. Cofiwch y gall pethau newid oherwydd y tywydd a chapasiti.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn eich canolfan hamdden leol neu'r un sy'n well gyda chi ar Facebook neu wasanaethau Hamdden am Oes Rhondda Cynon Taf ar Facebook, Twitter ac Instagram.