Skip to main content

Free Swim

Nofio am Ddim i'r Teulu ar y Penwythnos

Mae ein 8 pwll nofio yn cynnig nofio am ddim i'r teulu ar y penwythnos (dydd Sadwrn neu ddydd Sul) am 1 awr drwy gydol y flwyddyn. 

Nofio am Ddim yn ystod Gwyliau'r Ysgol

Mae ein 8 pwll nofio yn cynnig nofio am ddim i'r teulu am 1 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau’r Nadolig. 

Tocyn Aur

Mae ein 8 pwll nofio yn cynnig gwersi nofio cwrs carlam am ddim yn ystod holl wyliau'r ysgol ac eithrio’r Nadolig i’r plant hynny sydd wedi'u nodi trwy ein rhaglen nofio i ysgolion fel y rhai sydd â'r angen mwyaf. 

60 oed a hŷn

Mae ein 8 pwll nofio yn cynnig un sesiwn am ddim yr wythnos i bobl 60 oed a hŷn. Noder bydd angen talu fesul sesiwn am unrhyw sesiynau wythnosol ychwanegol.    

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu e-bostiwch gwersinofio@rctcbc.gov.uk.

Bwriwch olwg hefyd ar ein tudalennau Facebook a'r ap Hamdden am Oes.

 Nofio am Ddim yng Nghymru | Chwaraeon Cymru