Mae ein rhaglen Gwersi nofio i blant yn rhedeg dros 50 wythnos o'r flwyddyn gydag egwyl o 2 wythnos dros y Nadolig. Mae gwersi yn magu sgiliau nofio a hyder plant 4 oed a hŷn. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd i'ch plentyn weithio tuag at gystadlaethau nofio trwy glybiau a gweithgareddau dŵr eraill, er enghraifft plymio, polo dŵr, achub bywyd, canŵio, chwaraeon dan y dŵr a thriathlon.
Mae modd gweld Telerau ac Amodau Gwersi Nofio i Blant, yma:
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer ein gwersi nofio i blant iau, ewch i'ch canolfan hamdden leol ar unrhyw adeg a llenwi ffurflen gais.
Bydd dewis gyda chi i sefydlu debyd uniongyrchol neu dalu am 10 sesiwn ymlaen llaw.
Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin - Nofio
Olrhain eich cynnydd
Gallwch olrhain cynnydd wythnosol eich plentyn trwy ein gwasanaeth porth. Bydd enwau defnyddiwr a chyfrineiriau yn cael eu rhoi i chi ar ôl i chi gofrestru.
Tystysgrifau a bathodynnau
Mae tystysgrifau a bathodynnau ar gael i'w prynu o'r ganolfan hamdden ar gyfer pob lefel sydd wedi'i chwblhau.
Gwersi Nofio trwy gyfrwng y Gymraeg
Rydyn ni hefyd wedi dechrau cynnal gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant a Ystrad mewn partneriaeth â'r Urdd.
Bydd y gwersi yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio (Tonnau) Nofio Cymru a byddan nhw'n cael eu cynnal yn union yr un modd â'n rhaglen Dysgu Nofio i Blant drwy'r Saesneg.
Mae lleoedd yn brin, felly os oes gyda chi ddiddordeb mewn archebu lle, ewch i'r ganolfan cyn gynted â bo modd. Yn y ganolfan, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gofrestru, cytuno â'n telerau ac amodau a dewis eich opsiwn talu (debyd uniongyrchol neu arian parod).
Rydyn ni'n gobeithio bydd modd i ni ddarparu Gwersi Nofio drwy'r Gymraeg yng Nghwm Cynon yn y dyfodol hefyd. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn dilyn maes o law.
Mae'r rhaglen 'Tonnau' yn dilyn y rhaglen Sblash. Dyma gam nesaf y llwybr dysgu nofio.
Os nad oes lleoedd ar gael, byddwn ni'n rhoi eich enw ar restr aros a byddwn ni'n cysylltu â chi pan fydd lle ar gael. Mae modd prynu tystysgrifau a bathodynnau ar gyfer pob ton wedi'i chwblhau yn y ganolfan hamdden.
- Datblygu hyder yn y dŵr
- Bod yn ddiogel yn y dŵr ac wrth fynd i mewn i'r pwll a dod allan ohono
- Dysgu technegau arnofio, sgwlio ac anadlu
- Dysgu nofio ar eich blaen, nofio ar eich cefn a nofio broga neu bili-pala, gyda chymhorthion os oes angen
- Gallu neidio i mewn i'r pwll
- Gwella technegau sgwlio, arnofio ac anadlu
- Gleidio gyda'ch corff yn syth
- Gallu nofio pellteroedd byr gan nofio ar eich blaen, nofio ar eich cefn a nofio broga neu bili-pala, heb gymhorthion
- Casglu eitem o waelod y pwll
- Gwella sgwlio ac arnofio
- Dysgu troedio'r dŵr
- Dysgu'r Cod Diogelwch Dŵr
- Nofio pellteroedd byr gan ddefnyddio'r technegau canlynol: nofio ar eich blaen, nofio ar eich cefn, nofio broga a phili-pala, heb gymhorthion
- Dysgu ciciau dolffin dan y dŵr
- Dysgu safle HELP
- Gwella technegau arnofio a throedio'r dŵr
- Gwella pob un o'r pedwar techneg nofio
- Dysgu neidiau o bob siâp
- Dysgu gwneud symudiad ‘trosben’ a sefyll ar eich dwylo o dan y dŵr
- Gwella sgwlio a thechnegau goroesi personol
- Nofio pellteroedd hwy gan ddefnyddio'r pedair techneg, gan gynnwys hyd (25 metr) o'ch hoff nofiad
- Dysgu paratoi ar gyfer ymarfer corff a pham
- Dysgu gwneud symudiad ‘trosben’ yn ôl, plymiad arwyneb wysg eich pen a phlymiad ar eich eistedd
- Gwella technegau goroesi personol, gan gynnwys nofio wrth wisgo dillad
- Nofio pellteroedd hwy gan ddefnyddio pob un o'r pedair techneg, gan ganolbwyntio ar dechneg
- Dysgu sut i blymio
- Gwella sgiliau arnofio, sgwlio, troedio dŵr a chylchdroi
- Nofio pellteroedd hwy gan ddefnyddio'r pedair techneg a nofio cymysgedd unigol
- Nofio'n rhan o dîm mewn ras gyfnewid
- 25 metr o nofio broga a nofio pili-pala
- 50 metr o nofio ar eich cefn a nofio ar eich blaen
- Gwella sgiliau arnofio, sgwlio, troedio dŵr a phlymio arwyneb
Ar ôl cwblhau ton 7, bydd gan blant y cyfle i symud ymlaen at ddisgyblaeth nofio benodol trwy ymuno ag un o'n
clybiau nofio neu ein rhaglen o
wersi achub bywyd neu barhau â thon 8 lle byddan nhw'n cael blas ar ddisgyblaethau nofio gwahanol megis 'rookies', polo dŵr, plymio a nofio artistig.
Am ragor o wybodaeth am Sblash a Thonnau, ewch i wefan Nofio Cymru (Dysgu Nofio).