Skip to main content

Y Parc

Mae ymwelwyr wedi bod yn mwynhau Parc Coffa Ynysangharad ers bron i 100 mlynedd - ac mae'n hawdd gweld pam.

Dyma'r hyn y mae modd i chi ei wneud yn y parc:

Mae'r parc yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty - hen adeilad sydd wedi'i adnewyddu ac sydd â 3 phwll nofio awyr-agored wedi'u gwresogi. Mae modd mwynhau sleidiau gwynt a gemau, nofio mewn lonydd a phwll sblash i blantos bach.

Mae hi'n werth ymweld â Chanolfan i Ymwelwyr Lido Ponty. Mae'r Ganolfan yma'n rhoi hanes y Lido gwreiddiol i chi. Fan hyn y bu Jenny James, sef y fenyw gyntaf i nofio'r Sianel, yn hyfforddi, a bu Sir Tom Jones yn bolheulo yma pan oedd e'n fachgen ifanc.

Ardal Chwarae'r Lido yw un o'r mannau chwarae gorau yn yr ardal, ac mae cyfarpar chwarae â thema yno er mwyn dathlu llwyddiant diwydiannol Pontypridd. 

Ewch i'r Caffi Glan-y-dŵr i gael blas ar amrywiaeth wych o fwydydd a chacennau cartref, paned, hufen iâ, diodydd oer a llawer yn rhagor! Mae'r caffi yn edrych dros bwll y Lido ac ardal Chwarae'r Lido.

Mae Canol Tref Pontypridd o fewn tafliad carreg i'r parc pe hoffech chi chwilio am ragor o leoedd i fwyta neu yfed. 

Yn ogystal â hynny, mae cyrtiau tennis, cae criced ac erwau o gaeau agored yn y parc. Mae e wedi llwyddo i ennill Gwobr y Faner Werdd bob blwyddyn am 12 mlynedd!

Mae'r parc yn aml yn croesawu achlysuron i'r teulu, gan gynnwys pethau fel diwrnodau llawn hwyl, ffeiriau a gorymdeithiau. 

Mae Llwybr Taith Taf yn rhedeg ar hyd un ochr o'r parc, felly mae modd i chi seiclo yno o Gaerdydd neu Ferthyr Tudful. Yn ogystal â hynny, mae modd cerdded i'r parc o'r orsaf drenau, ac mae digon o feysydd parcio ceir ym Mhontypridd.

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt yn y parc:

Bumble bee - Ponty Park

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt

Rhagor o wybodaeth am y gerddi blodau trawiadol a'r planhigion, coed, pryfed ac adar sydd i'w gweld ym Mharc Ynysangharad.

Hanes y parc:

Pontypridd Park- view

Hanes Parc Coffa Ynysangharad

Rhagor o wybodaeth am hanes diddorol y parc.

PontyParkEvanJamesrestored

 Cerfluniau Evan James a James James

Ym mis Gorffennaf 1930, cafodd y gofeb i Evan James (1809-1878) a James James (1833-1902), y tad a'r mab o Bontypridd a wnaeth gyfansoddi ein hanthem genedlaethol eiconig Hen Wlad fy Nhadau, ei dadorchuddio. Mae'r ddau gerflun wedi'u gwneud o efydd, ac maen nhw'n dangos dau ffigur mewn gwisg Geltaidd - dyn yn gafael mewn telyn, sy'n cyfleu cerddoriaeth, a menyw sy'n cyfleu barddoniaeth.

Banstand ponty park

Y Safle Seindorf

Cafodd y Safle Seindorf ei adeiladu ym 1926. Mae ganddo do crwn gyda theils coch ac mae'r rheilins wedi'u gwneud o ddur. Dyma ganolbwynt y parc. Mae gwlâu blodau tymhorol o'i amgylch, ac mae e'n adlewyrchu'r ffordd yr oedd pobl Oes Fictoria yn ystyried hamddena yn fater diwylliedig yn hytrach na mater corfforol. Dros amser, daeth y Safle Seindorf yn ganolbwynt i'r parc, yn enwedig yn ystod taith goroni'r Frenhines Elizabeth II ym 1953.