Beth am gael te a chacennau wrth ymyl y pwll nofio yn Lido Cenedlaethol Cymru?
Bydd pawb eisiau dod i fwynhau bwyd yng Nghaffi'r Lido!
Rydyn ni, a Cleverchefs, sy'n gwmni arlwyo sydd wedi ennill nifer o wobrau wedi dod at ein gilydd i gynnig blas arbennig ar fwyd y bydd pawb yn ei fwynhau.
Bydd amrywiaeth o fyrbrydau poeth, cacennau cartref campus, coffi Frappuccino a choffi wedi'i rostio'n lleol ar gael bob dydd.
Bydd ein carfan arlwyo broffesiynol yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i chi.
Bydd Caffi'r Lido yn agor yn ardal bwyty Lido Ponty ddiwedd mis Mai a bydd ar agor bob dydd, rhwng 9am a 6pm.
Bydd ystod eang o gynigion arbennig ar gael trwy gydol y dydd.
Beth am gael rhôl frecwast boeth a choffi ar eich ffordd i'r gwaith?
Beth am gasglu salad mewn bocs neu pizza o ffwrn goed yn ystod amser cinio?
Mae modd i chi fwyta a mwynhau golygfeydd godidog Parc Coffa Ynysangharad ar yr un pryd.
Mae bwydydd i blant eu mwynhau fydd yn rhoi egni iddyn nhw barhau i fwynhau yn y maes chwarae antur.
Mae prydau bwyd arbennig, hufen iâ, diodydd slush puppies a brechdannau i'w mwynhau.
Mae'r cogyddion a'r baristas yn rhan o garfan gyfeillgar sy’n edrych ymlaen at gynnig bwydlen flasus a gwahanol i ymwelwyr Lido Ponty a Pharc Coffa Ynysangharad ei mwynhau.
Mae'r bwyd yn ffres bob amser – brecwast, brecinio, cinio, byrbrydau, coffi barista (poeth ac oer) a chacennau cartref.Mae Caffi'r Lido ar agor rhwng 9am a 6pm, bob dydd.
Sylwch: mae prydau poeth ar gael tan 4pm.
E-bost - feedme@cleverchefs.co.uk
Rhif ffôn - 0345 5210123