MAE GAN LIDO PONTY RYWBETH I BAWB!
Mae yma dri phwll nofio – prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash. Heb os, mae Lido Ponty yn cynnig cyfleoedd nofio gwych i bawb o bob oed a gallu.
Mae Lido Ponty ar agor bob dydd ar gyfer sesiynau nofio ben bore (nofio mewn lonydd a nofio hamddenol) yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau. Mae'r rhain ar gael trwy gydol y tymor – boed law neu hindda!
Mae sesiynau hwyl, lle mae'r cwrs rhwystrau teganau gwynt, Aqua Peddlerz a'r Water Walker ar gael, yn cael eu cynnal ar benwythnosau, Gwyliau Banc ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Rydyn ni hefyd yn ychwanegu dwy sesiwn hwyl ar ôl yr ysgol yn ystod y cyfnod cyn gwyliau'r ysgol, pan fydd y tywydd yn well.
Nodwch fod y sesiynau yma ar gael i unrhyw un sydd eisiau nofio.
Os ydych chi eisiau mwynhau'r cwrs rhwystrau, Aqua Peddlerz a Water Walker, bydd angen prynu band gweithgareddau (un ar gyfer pob person sy'n dymuno mynd arnyn nhw, gan gynnwys plant). Mae modd prynu bandiau wrth drefnu tocynnau ar-lein, neu cewch chi brynu bandiau o'r dderbynfa wrth gyrraedd.
Mae angen tocyn gwylio ar unrhyw un sy'n dod i Lido Ponty, ond sydd ddim yn nofio. Does dim modd eistedd wrth y pwll heb docyn gwylio neu docyn nofio. Cofiwch hyn wrth brynu tocynnau.
Mae modd gweld yr amserlen yma.
Mae'r pwll sblasio wedi'i anelu at ymwelwyr llai. Mae ganddo ffynnon ymbarél y byddan nhw'n dwlu arni. Beth am ddod â bwcedi a chaniau dŵr eich plant er mwyn iddyn nhw chwarae yn y dŵr cynnes mewn amgylchedd diogel a hapus?
Pan mae'r haul yn gwenu, beth am dorheulo wrth ymyl y pwll ar ein teras haul?
Mae hwyl Lido Ponty yn parhau wrth i dymheredd y dŵr yn y pyllau awyr agored gael ei ostwng i 14 gradd ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer (dros 16 oed)
Mae'n bwysig bod pawb yn mwynhau mas draw yn Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru. Rhaid i bawb fod yn ddiogel.
Rhaid ichi ddilyn y canllawiau canlynol bob amser.
Nodwch fod pobl yn manteisio ar y tocynnau yma yn gynnar iawn.
Mae mynediad i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, AM DDIM i blant dan 16 oed neu £3 i oedolion.