Skip to main content

Cwrdd â'r Glowyr

 

Maen nhw'n dychwelyd i ben y pwll i rannu'u profiadau a'u hatgofion gyda chi yn rhan o Daith Aur Du.

 minersMae Graham Williams, Peter Griffiths ac Anthony Fidler, tri glöwr sydd wedi ymddeol, yn graig o wybodaeth am fwyngloddio. Maen nhw'n awyddus i rannu'u profiadau a'u straeon â'r ymwelwyr.

Dechreuodd Graham, 72 oed, weithio yn Llyfrgell Abercynon ym 1957. Yna, symudodd ymlaen i weithio yng Nglofa'r Cwm, Glofa Ynysowen a Glofa Taf Merthyr, tan iddi gau ym 1989. Roedd wedi gweithio fel glöwr am 39 o flynyddoedd.

Mae gŵr priod sy'n dad i ddau o blant, o Abercynon, wedi bod yn dywysydd yn atyniad Taith Pyllau Glo Cymru ers dau ddegawd.

Meddai: "Roeddwn i'n mwynhau fy swydd fel glwr, ond rydw i'n mwynhau'r swydd yma'n fwy. Mae'n wych cael y cyfle i rannu fy atgofion fel glöwr â'n holl ymwelwyr - does dim cof gyda nifer ohonyn nhw o unrhyw bwll glo ar agor," meddai Graham.

Dechreuodd Peter weithio yng Nglofa Tŷ Mawr ym 1970 cyn symud i Lofa Nantgarw, Glofa Lady Windsor a Glofa Penallta, cyn gorffen gweithio ym 1991.

Serch hynny, dechreuodd weithio eto yn 2009, yng Nglofa Ddrifft Aberpergwm yng Nghwm Nedd, gan orffen yn 2013. Dathlodd 25 o flynyddoedd yn gweithio fel glöwr. Mae Peter, o Flaenrhondda, yn briod ac yn dad i dri.

Meddai: "Gweithio yn y diwydiant glo oedd un o'r swyddi anoddaf oedd ar gael. Ond roedd yn cynnig cymaint o foddhad. Mae ffrind sy'n löwr yn ffrind am oes."

Dechreuodd Anthony, o Aberpennar, hyfforddi fel glöwr yng Nglofa Britannia pan oedd yn 17 oed. Yna, aeth i weithio yng Nglofa Deep Duffryn ac yna yng Nglofa Ynysowen, tan iddi gau ym 1989.

Treuliodd 17 o flynyddoedd dan y ddaear. Mae e'n briod ac yn dad i dri.

Meddai: "Doedd gweithio fel glöwr ddim yn swydd hawdd ei gwneud - roedd rhaid gweithio'n galed ac roedd yn heriol iawn. Ond mae glowyr yn ddelwedd eiconig o Gymoedd y De, ac rwyf yn falch dros ben o fod yn un ohonyn nhw."