Oriau Agor
Rydyn ni ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Mae un daith yr awr rhwng 10am a 3pm ar y dyddiau yma. I gadw'ch lle ar daith, cliciwch yma
Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar hen safle Glofa Lewis Merthyr yng nghanol Cwm Rhondda ac mae'n lle rhyfeddol i bawb o bob oedran ymweld ag ef. Mae Taith yr Aur Du'n cael ei harwain gan ein tywyswyr a fu'n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Byddan nhw'n rhannu eu profiadau a'u straeon o weithio dan ddaear ac yn adrodd hanes yr Aur Du a gafodd ei gludo o Gwm Rhondda i weddill y byd. Ar ddiwedd pob taith, bydd cyfle i chi neidio ar y DRAM! Ein dram lo rithwir yw hon. Byddwch chi'n cael eich syfrdanu! Yn ogystal â'r daith, mae caffi gyda ni sy'n gweini prydau bwyd a byrbrydau, arddangosfeydd rhyngweithiol am ddim i'w gweld a siop grefftau sydd wedi gwobrau.
Mae'n ddiwrnod llawn antur i bob aelod o'r teulu.
Mae gan ein tywyswyr dros 80 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio dan ddaear. Yn wir, mae'r tywyswyr yn deall yr hyn maen nhw'n sôn amdano!