Mae arteffact hanesyddol a ddarganfuwyd mewn cwpwrdd mewn ysgol yn Doncaster wedi'i ddychwelyd i safle'r ddamwain trên lle cafodd ei gymryd dros 110 mlynedd yn ôl, yn Ne Cymru.
Mae'r awyrydd lwfer ffenestr, sydd bellach ym meddiant y Doncaster Grammar School Railway Collection Trust, yn wreiddiol o drên teithwyr o Reilffordd Dyffryn Taf.
Roedd cannoedd o bobl yn teithio ar y trên pan wrthdarodd â wagen mwynau a oedd yn cludo tunnell o lo o Lofa Lewis Merthyr, ym mis Ionawr 1911.
Digwyddodd y ddamwain yn ystod adeg o weithredu diwydiannol pwysig, "Yr Aflonyddwch Mawr", mewn pyllau glo ledled Cwm Rhondda. Ymhlith y 10 o bobl a laddwyd roedd arweinwyr Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar eu ffordd i gyfarfod y 'Ffed'.
Mae'r arteffact wedi'i ddychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod, sydd wedi'i hadeiladu yn ôl troed hen Lofa Lewis Merthyr ac sy'n sefyll yn agos at leoliad y ddamwain.
Bydd yn cael ei arddangos yn rhan o arddangosfa 'Y Gymdeithas Lofaol' yr amgueddfa. Mae'r arddangosfa'n manylu ar stori ryngwladol epig y frwydr a’r diwydiant a ddatblygodd ym mhyllau glo De Cymru.
Mae gwrthrych o drychineb Rheilffordd Trehopcyn ym 1911 wedi dod o Ddoncaster i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ac mae bellach yn cael ei arddangos i'r cyhoedd.
Bydd yr awyrydd lwfer, a fyddai wedi gadael aer i mewn ac allan o'r cerbyd trên, yn cael ei arddangos yn rhan o arddangosfa 'Y Gymdeithas Lofaol' Amgueddfa Trehafod, sydd ar agor i'r cyhoedd.
Cafwyd hyd i'r gwrthrych mewn cwpwrdd yn Academi Hall Cross, Doncaster ac mae'r arysgrif arno'n darllen: “A relic from the TVR collision at Hopkinstown, which occurred January 23, 1911: J Morris" ac mae bellach yng ngofal y Doncaster Grammar School Railway Collection Trust.
Dros 110 mlynedd yn ôl, ym mis Ionawr 1911, bu trên teithwyr a oedd yn teithio o Dreherbert i Gaerdydd mewn gwrthdrawiad â thrên mwynau a oedd yn cludo 30-40 tunnell o lo o Lofa Lewis Merthyr - sydd bellach yn gartref i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Lladdwyd un ar ddeg o bobl yn y drychineb, gan gynnwys cynghorwyr lleol ac arweinwyr y glowyr a oedd ar eu ffordd i Gyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru yng Nghaerdydd. Anafwyd cannoedd o bobl eraill.
Digwyddodd y trychineb yn ystod cyfnod pwysig yn hanes Rhondda Cynon Taf gan roedd terfysgoedd Tonypandy yn dal yn mynd ymlaen ac roedd aflonyddwch yn yr ardal. Byddai cyfarfod Ffederasiwn y Glowyr, yr oedd llawer o’r rhai ar y trên yn teithio iddo, wedi bod yn gyfarfod arwyddocaol wrth i’r gweithredu diwydiannol barhau. Dyma ragor o wybodaeth am Derfysgoedd Tonypandy:
Mewn gwirionedd, swyddogion o Heddlu Metropolitan Llundain, a oedd yn yr ardal oherwydd y terfysgoedd, oedd rhai o'r cyntaf i gyrraedd lleoliad y ddamwain trên, a achoswyd yn ôl pob tebyg gan gamgymeriad dynol. Mae dogfen o'r ymchwiliad i'r ddamwain. Mae modd ei gweld yma:
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae’n ddirgelwch meddwl sut y daethpwyd o hyd i arteffact o Drychineb Trên Trehopcyn ym 1911 mewn cwpwrdd mewn ysgol yng ngogledd Lloegr.
“Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'r Doncaster Grammar School Railway Collection Trust am fenthyg yr eitem yma inni, fel bod modd i ni ei harddangos yn rhan o’n harddangosfa ryngweithiol anhygoel yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
“Mae’n ffordd wych i’n hymwelwyr weld mwy o’n hanes yn dod yn fyw yn yr atyniad arobryn yma.”
Mae'r awyrydd lwfer a ddarganfuwyd cymaint o flynyddoedd ar ôl y ddamwain wedi cael ei fenthyg i Wasanaeth Treftadaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf ac mae'n debygol o aros yng Nghymru i gael ei weld am flwyddyn.
Mae modd i chi ei weld yn rhan o'r arddangosfa anhygoel yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae mynediad yn ddim ond £2 y pen. Mae'n llawn arddangosfeydd digidol a ffotograffig, arteffactau, cwisiau a straeon bywyd go iawn sy'n dod â threftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol gyfoethog yr ardal yn fyw.
Camwch yn ôl mewn amser i ddyddiau cloddio am lo a phŵer diwydiannol a fyddai wedi bod yn gefndir i Drychineb Rheilffordd Trehopcyn.
Ewch i ymweld â'r arddangosfa a mwynhewch daith i'r gorffennol. Mae modd i chi hefyd fwynhau ein cowrt, rhan o hen Lofa Lewis Merthyr a gweld y simnai wreiddiol drawiadol, yr adeiladau allanol a'r arteffactau diwydiannol.
Galwch am de, cacen neu bryd poeth yng Nghaffi Bracchi ar y safle a gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad trwy gadw lle ar Daith yr Aur Du lle mae dynion a oedd yn gweithio mewn pyllau glo pan oedden nhw'n fechgyn yn mynd â chi ar daith dan ddaear ac yn ôl mewn amser.
Bydden nhw'n rhannu eu straeon a'u hatgofion personol, cyffrous gyda chi wrth iddyn nhw ddangos i chi sut beth oedd bywyd iddyn nhw a'u cymunedau.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor o 9am tan 4.30pm ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.
Wedi ei bostio ar 02/07/2025