Skip to main content

Teithiau'r Aur Du - Telerau ac Amodau Gwerthu Tocynnau

 
  • Mae Taith yr Aur Du yn cynnwys teithiau tywys uwchlaw a thanddaear. Nodwch fod ardaloedd o'r Atyniad yma'n dywyll.
  • Er budd diogelwch a chysur pob gwestai, fe ddylech chi fod yn iach a heb salwch teithio. Ddylech chi ddim bod ag unrhyw broblemau yn ymwneud â'r galon, anadlu, y cefn, y gwddf, neu unrhyw gyflyrau eraill a allai gael eu gwneud yn waeth gan yr atyniad.
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Mae'n anochel y gall tywydd gwael effeithio ar unrhyw atyniad. Os bydd raid cau’r atyniad oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn ni'n cynnig i chi ddod ar ddyddiad/amser gwahanol os yw’n berthnasol. Dim ond os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gau neu'n canslo'r daith y byddwn ni'n rhoi ad-daliad i chi.
  • Cyrhaeddwch 15 munud cyn eich taith. Mae'n bosibl na fydd modd i'r sawl sy'n cyrraedd yn hwyr ymuno â'r daith ac efallai byddan nhw'n colli elfennau o'r daith dywys.
  • Er rhesymau iechyd a diogelwch (o ganlyniad i nodweddion topograffaidd yr atyniad), chewch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn nac offer symud eraill i mewn i'r daith dan ddaear. Os oes gyda chi broblemau symudedd, ffoniwch 01443 682036.
  • Caiff effeithiau arbennig eu defnyddio yn yr atyniad megis fflachiadau ac effeithiau mwg. Ni ddylai ymwelwyr gymryd rhan os oes ganddyn nhw sensitifrwydd meddygol i'r effeithiau hyn.
  • Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sy gyda chi.
  • Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r Atyniad dalu ffi mynediad neu fod â thocyn dilys.
  • Mae'n bosibl y bydd aelod o staff awdurdodedig yn cynnal archwiliad ar unrhyw un wrth ddod i mewn, neu ar unrhyw adeg arall yn ystod yr Atyniad. Os byddwch chi'n gwrthod cael eich archwilio, byddwn ni'n gwrthod mynediad i chi, neu cewch eich tynnu o'r atyniad. 
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw sŵn neu ymddygiad a fydd yn aflonyddu, drysu, peri niwsans neu'n cael effaith ar ddiogelwch gwesteion eraill neu staff mewn unrhyw ran o'r Atyniad. Bydd unrhyw berson sy'n gweithredu yn y fath fodd yn cael ei dynnu o'r daith, a gallai fod yn ddarostyngedig i achos cyfreithiol lle bo hynny'n briodol.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle.
  • Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser yn yr Atyniad.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr Atyniad, heblaw am gŵn tywys a chymorth.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu alcohol. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un rydyn ni'n tybio ei fod o dan ddylanwad alcohol.
  • Rydyn ni'n disgwyl bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r Atyniad, felly mae'n bosibl y bydd raid aros am sbel. Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i fynd â chi i mewn i'r Atyniad yn brydlon, fodd bynnag, efallai bydd raid i chi aros rhywfaint yn ystod cyfnodau prysur.
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Does dim angen prynu tocyn i fynd i mewn i ardal yr Arddangosfa Aur Du, mae hyn yn rhad ac am ddim.
  • Dram yw'r profiad sinematig newydd ar gyfer 2018; efelychiad effeithiau arbennig ac effeithiau gweledol rhyfeddol.  Ni ddylai ymwelwyr fod ag unrhyw un o'r cyflyrau canlynol: cyflyrau ar y galon neu bwysedd gwaed annormal, salwch teithio neu bendro, sensitifrwydd i synau uchel a sydyn, sensitifrwydd meddygol i oleuadau strôb ac effeithiau niwl, llawfeddygaeth ddiweddar neu gyflyrau eraill yr ysgyfaint neu anadlu a allai gael eu gwaethygu gan yr atyniad yma. Dylai pobl feichiog geisio cyngor gan arweinydd eu taith cyn cychwyn ar y daith.     
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r Atyniad, gwahardd unrhyw un o'r Atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r Atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.
  • Teithiau'r Aur Du - Telerau ac Amodau Gwerthu Tocynnau
  • Mae Taith yr Aur Du yn cynnwys teithiau tywys uwchlaw a thanddaear. Nodwch fod rhai ardaloedd o'r Atyniad yma'n dywyll.
  • Er budd diogelwch a chysur pob gwestai, fe ddylech chi fod yn iach a heb salwch teithio. Ddylech chi ddim bod ag unrhyw broblemau yn ymwneud â'r galon, anadlu, y cefn, y gwddf, neu unrhyw gyflyrau eraill a allai gael eu gwneud yn waeth gan yr atyniad. Caiff effeithiau arbennig eu defnyddio yn yr atyniad megis fflachiadau ac effeithiau mwg. Ni ddylai ymwelwyr gymryd rhan os oes ganddyn nhw sensitifrwydd meddygol i'r effeithiau hyn.
  • Ar hyn o bryd, does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Serch hynny os byddwch chi'n cael canlyniad positif i brawf Covid, bydd eich taith yn cael ei chanslo a'i haildrefnu ar ddyddiad ar ôl eich cyfnod hunanynysu. 
  • Mae'n anochel y gall tywydd gwael effeithio ar unrhyw atyniad. Os bydd raid cau'r atyniad oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn ni'n cynnig i chi ddod ar ddyddiad/amser gwahanol os yw'n berthnasol. Dim ond os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gau neu'n canslo'r daith y byddwn ni'n rhoi ad-daliad i chi.
  • Cyrhaeddwch 10 munud cyn eich taith. O ganlyniad i gyfyngiadau Covid, byddwn ni'n gofyn i chi aros mewn ardal benodol am dywysydd eich taith. Os byddwch chi'n cyrraedd yn hwyr, mae hi'n bosibl y bydd modd i chi fwrw ymlaen â'r daith, gan mai dim ond eich grŵp chi fydd arni, ond efallai y byddwch chi'n colli elfennau o'r daith dywys.
  • Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes rhywun yn eich grŵp sy'n defnyddio cadair olwyn.
  • Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sydd gyda chi.
  • Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r atyniad dalu ffi mynediad neu fod â thocyn dilys. Mae angen o leiaf 2 berson (i fynd ar y daith) ond ddim mwy nag 8. Rhaid i chi i gyd fod yn aelodau o'r un aelwyd estynedig. Ein bwriad yw cynnal lefel o ddiogelwch i'ch grŵp a'r staff ar bob adeg.
  • Mae'n bosibl y bydd aelod o staff awdurdodedig yn cynnal archwiliad ar unrhyw un wrth ddod i mewn, neu ar unrhyw adeg arall yn ystod yr Atyniad. Os byddwch chi'n gwrthod cael eich archwilio, byddwn ni'n gwrthod mynediad i chi, neu cewch eich tynnu o'r atyniad. 
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle.
  • Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr atyniad, heblaw am gŵn tywys a chymorth.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu alcohol. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un rydyn ni'n tybio ei fod o dan ddylanwad alcohol.
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Does dim angen prynu tocyn i fynd i mewn i ardal yr Arddangosfa Aur Du, mae hyn yn rhad ac am ddim. Serch hynny, nodwch ei bod hi'n bosibl y bydd raid i bobl fynd i mewn i'r atyniad yn raddol gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
  • Mae rhan o'r daith yn cynnwys Dram, profiad sinematig sy'n efelychiad effeithiau arbennig ac effeithiau gweledol rhyfeddol.  Ni ddylai ymwelwyr fod ag unrhyw un o'r cyflyrau canlynol: cyflyrau ar y galon neu bwysedd gwaed annormal, salwch teithio neu bendro, sensitifrwydd i synau uchel a sydyn, sensitifrwydd meddygol i oleuadau strôb ac effeithiau niwl, llawfeddygaeth ddiweddar neu gyflyrau eraill yr ysgyfaint neu anadlu a allai gael eu gwaethygu gan yr atyniad yma. Dylai pobl feichiog geisio cyngor gan arweinydd eu taith cyn cychwyn ar y daith.     
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r Atyniad, gwahardd unrhyw un o'r Atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r Atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.
  • O ystyried y sefyllfa bresennol gyda Covid, gofynnwn i unrhyw un sy'n ymweld barchu'r holl systemau unffordd / cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau hylendid sydd ar waith.