Skip to main content

Telerau ac Amodau Gweithgaredd Craft of Hearts

 
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Mae modd i dywydd gwael effeithio ar yr achlysur. Os bydd raid canslo'r achlysur oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn yn cynnig i chi ddod ar ddiwrnod/amser gwahanol. Byddwch ond yn cael cynnig ad-daliad os yw Craft of Hearts yn canslo'r achlysur.
  • Bydd Craft of Hearts yn sicrhau bod yr holl grefftau yn addas ar gyfer oedrannau'r cyfranwyr (rhwng 5 a 16 oed). Trafodwch unrhyw drefniadau hoffech chi eu gwneud ar gyfer plant iau cyn yr achlysur.
  • Rhaid i rieni/gwarcheidwaid roi gwybod i unrhyw aelod o staff sydd ar ddyletswydd am unrhyw alergeddau perthnasol sydd gan y plentyn.
  • Mae'n bosibl bydd y gweithgareddau'n anniben (paent ac ati). Sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo dillad addas. Wrth ymdrechu i ddefnyddio llai o blastig, fyddwn ni ddim yn darparu ffedogau na menig.
  • Croeso i chi ddod â ffedogau neu ddillad eraill i wisgo am eich plentyn chi cyn y gweithgaredd. Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi fydd hyn. Fydd dim cyfle gan y staff i wneud hyn ar eich rhan.
  • Deallwch fod hi'n bosibl bydd eich plentyn chi'n defnyddio sisyrnau a brwsys paent ac ati. Felly rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
  • Os oes unrhyw anghenion ychwanegol gan eich plentyn, cysylltwch â Craft of Hearts ar 07917467103 o leiaf wythnos cyn yr achlysur er mwyn i ni wneud pob ymdrech i sicrhau ein bod ni'n diwallu'r anghenion hyn.
  • Er gwybodaeth, dyw Craft of Hearts ddim yn cynnal nac yn rheoli'r atyniadau eraill. Os ydych chi am gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny, ewch i www.rhonddaheritagepark.com