Skip to main content

Cerddoriaeth yn y Park - Gwerthu Tocynnau - Telerau ac Amodau

 
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Bydd tywydd gwael yn effeithio ar yr achlysur. Os bydd raid canslo'r achlysur oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn yn cynnig ichi ddod ar ddiwrnod/amser gwahanol. Byddwn ni dim ond yn rhoi ad-daliad i chi os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn canslo'r achlysur.
  • Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sy gyda chi.
  • Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r atyniad dalu ffi mynediad neu fod â thocyn dilys.
  • Mae'n bosib bydd staff yr achlysur yn gwneud chwiliadau wrth i bobl ddod i mewn i'r atyniad neu ar unrhyw adeg yn ystod yr achlysur. Os ydych chi’n gwrthod chwiliad gan aelod o staff fydd dim modd i chi ddod i mewn i'r achlysur a/neu bydd raid i chi adael.   
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw sŵn neu ymddygiad a fydd yn aflonyddu, drysu, peri niwsans neu'n cael effaith ar ddiogelwch gwestai eraill neu staff mewn unrhyw ran o'r Atyniad.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle. Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser yn yr achlysur. Dydyn ni ddim yn caniatáu i chi wisgo dillad sy â sloganau gwleidyddol neu anaddas yn yr achlysur.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr Atyniad, heblaw am gŵn tywys.
  • Does dim hawl dod â photeli neu ganiau o alcohol i mewn i'r atyniad. Bydd amrywiaeth o fwydydd a diodydd ar gael yn yr achlysur.
  • Bydd raid i'r rheiny sy'n edrych yn iau na 21 oed ddangos tystiolaeth o oedran er mwyn prynu alcohol.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu tân gwyllt, fflerau, baneri, polion neu eitemau tebyg yn yr atyniad a fydd dim mynediad i unrhyw un sy'n dod ag un o'r eitemau yma i'r atyniad.
  • Bydd raid i'r person â thocyn dilys adael yr atyniad os ydy e'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau stiward neu unrhyw berson arall sy'n gweithio ar ran Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
  • Mae'n bosib bydd ffi weinyddol/ffi cadw lle wrth brynu tocynnau; bydd hyn yn dibynnu ar y Swyddfa Docynnau.
  • Mae perchennog y tocyn yn caniatáu i ni dynnu lluniau ohono a / neu'i ffilmio ac yn caniatáu i ni ddefnyddio'r lluniau/ffilm ar y cyfryngau cymdeithasol fydd yn weladwy ar draws y byd.
  • Chewch chi ddim ailwerthu tocynnau, neu’u defnyddio nhw at ddiben cystadlaethau neu becynnau lletygarwch heb ganiatâd ysgrifenedig Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Bydd unrhyw docyn wedi'i ailwerthu neu'i drosglwyddo yn annilys a fydd dim mynediad i berchennog y tocyn neu bydd raid iddo adael yr atyniad.
  • Rydyn ni'n disgwyl bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r atyniad, felly, mae'n bosibl bydd raid aros am sbel. Er ein bod ni'n gwneud pob ymdrech i'ch gadael chi i mewn i'r atyniad cyn gynted ag y bo modd mae'n bosib bydd raid i chi aros am ychydig. 
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Mae'r achlysur yma sy â nifer o artistiaid yn cael ei feirniadu ar ei thema gyffredinol yn hytrach na'r artistiaid unigol wedi'u trefnu i berfformio. Felly os oes rhaid i artist wedi'i drefnu ganslo ond mae'r achlysur yn mynd ymlaen, fydd dim modd hawlio ad-daliad. Does dim modd cael ad-daliad o ffioedd cadw lle neu ffioedd postio.
  • Fydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed i eiddo perchennog y tocyn.
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r atyniad, gwahardd unrhyw un o'r atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.