Skip to main content

Ogof Siôn Corn - Telerau ac Amodau Gwerthu Tocynnau

 
  • Mae Ogof Siôn Corn yn atyniad tanddaearol, anturus. Cofiwch ei bod hi'n dywyll mewn mannau yma.
  • Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn i'r daith ddechrau.
  • Er mwyn bod pawb yn ddiogel a chyforddus, fe ddylech chi fod yn iach ac heb fod yn dioddef o broblemau yn ymwneud â'r galon, y cefn na'r gwddwg, nac ychwaith o broblemau anadlu, salwch teithio nac unrhyw gyflyrau eraill a gael eu gwaethygu gan yr atyniad.
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Yn anochel, bydd tywydd gwael yn effeithio ar yr achlysur. Os bydd rhaid canslo'r achlysur oherwydd dydy hi ddim yn ddiogel i barhau, byddwn yn cynnig ichi ddod ar ddiwrnod/amser gwahanol lle bo hynny'n bosibl. Yr unig dro byddwn ni yn rhoi ad-daliad i chi yw os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn canslo'r achlysur.
  • Er mwyn rhesymau iechyd a diogelwch (o ganlyniad i nodweddion topograffaidd yr atyniad), chewch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn neu offer symud eraill i mewn i'r atyniad. Os oes gyda chi broblemau symudedd, ffoniwch 01443 682036.
  • Mae effeithiau arbennig yn cael eu defnyddio yn yr atyniad fel goleuadau, mwg ac eira ffug. Os ydych chi'n tybio y bydd y pethau hyn yn effeithio arnoch chi, dylech chi ddim gymryd rhan.
  • Drwy fynychu'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i ddiogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sydd gyda chi.
  • Rhaid i unrhywun sy'n mynd i mewn i'r atyniad gael tocyn dilys neu dalu ffi mynediad.
  • Mae'n bosibl y bydd aelod o staff awdurdodedig yn cynnal archwiliad ar unrhyw un sy'n dod i'r achlysur. Os byddwch chi'n gwrthod cael eich archwilio, byddwn ni'n gwrthod mynediad i chi, neu fe gewch eich tynnu o'r atyniad. 
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw sŵn neu ymddygiad a fydd yn aflonyddu, drysu, peri niwsans neu'n cael effaith ar ddiogelwch gwestai eraill neu staff mewn unrhyw ran o'r Atyniad.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle. Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser yn yr achlysur. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un sy'n gwisgo dillad â datganiadau gwleidyddol neu dramgwyddus arnyn nhw.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr Atyniad, heblaw cŵn tywys.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu alcohol. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un sydd o dan ddylanwad alcohol.
  • Rydyn ni'n disgwyl bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r atyniad, felly, mae'n bosibl bydd rhaid aros am sbel. Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i fynd â chi i mewn i'r atyniad yn brydlon. Serch hynny, byddwch yn ymwybodol y bydd rhaid ichi aros o bosib.
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i ddewis anrhegion o ansawdd da. Bydd anrhegion gwahanol ar gyfer dau gategori oed gwahanol - dan 3 oed a thros 3 oed. Dyma'r oedran sydd wedi'i nodi ar yr anrhegion gan y gwneuthurwyr. Cyfrifoldeb rhieni/gwarcheidwaid yw hi i oruchwylio plant pan fyddan nhw'n chwarae â'r anrheg oddi wrth Siôn Corn.
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r atyniad, gwahardd unrhyw un o'r atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.
  • Bydd teithiau'n gadael ar amser, ac mae'n hanfodol bod deiliaid tocynnau yn cyrraedd y lleoliad gyda digon o amser i gofrestru a dechrau'ch taith mewn pryd; efallai na fyddwn yn caniatáu i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr fynd ar y daith os ydy hi wedi dechrau'n barod. Os collwch eich taith nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn gallu gwneud trefniadau ar gyfer taith / amser amgen ac efallai na fydd modd ichi gymryd rhan. Fyddwn ni ddim yn ad-dalu'r bobl hynny nad ydyn nhw'n bresennol na chwaith y rhai hynny sydd wedi colli taith.
  • Mae'r atyniadau ychwanegol sydd ar y safle fel y Dosbarthiadau Crefft a Gweithdai Siocled yn cael eu trefnu gan drydydd parti ac yn rhedeg ar sail cyflenwad a galw. Os ydych chi'n archebu un o'r gweithgareddau hyn ar yr un pryd rydych chi'n prynu'ch Tocyn Taith Ogof Siôn Corn, os gwelwch yn dda, a wnewch chi sicrhau eich bod chi'n cyrraedd mewn digon o amseri gymryd rhan yn y gweithgaredd yma.
  • Teithiau Diwedd y dydd - nodwch os gwelwch yn dda, os ydych chi wedi prynu tocyn ar gyfer taith olaf y dydd, efallai y bydd rhai o'r atyniadau ychwanegol ar gau erbyn diwedd eich taith. Er mwyn elwa o'r holl atyniadau a'r adloniant yn yr achlysur hwn rydym yn cynghori eich bod chi'n cyrraedd yn gynharach nag amser cychwyn eich taith.