Posted: 23/07/2018
Dyma 10 rheswm pam rydyn ni'n DWLU ar Barc Aberdâr:
Edrych am ffordd wych o dreulio'ch diwrnod? Ewch i Barc Aberdâr a'r ardal gyfoes neu cewch chi aros dros nos mewn pabell o dan y sêr ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.
Dyma 10 rheswm pam rydyn ni'n DWLU ar Barc Aberdâr:
1. Mae mynediad am ddim ac mae ERWAU i'w harchwilio.
2. Mae'r maes chwarae yn cadw'r plant yn brysur am oriau.

2. Mae'r maes chwarae yn cadw'r plant yn brysur am oriau.

3. Mae'r llyn Fictoraidd a chychod padlo ar eu newydd wedd yn hwyl ac yn unigryw – mae'r caffi yn gweini hufen iâ Eidalaidd
traddodiadol sydd wedi'i wneud yn ein Cymoedd ers dros 100 o flynyddoedd!

4. Mae gan y parc lwyth o rywogaethau amrywiol o flodau a choed, gan gynnwys gardd rosod sydd â 17 gwely blodau o bob lliw ac arogl.

5. Mae'r ffynnon ar ei newydd wedd ymhlith nifer fach o ffynhonnau o'r fath yn y byd. Mae dyblygiad tu allan i westy moethus Raffles yn Singapore.

6. Roedd y parc yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1956 ac mae Cylch yr Orsedd wedi'i greu ar gyfer yr achlysur yn dal i sefyll heddiw.

7. Arweiniodd Syr Bradley Wiggins feicwyr allan o Barc Aberdâr i ddechrau ar gam 5 o'r ras feicio fawreddog Taith Prydain yng nghwmni Marc Cavendish ac Owain Doull.

8. Mae Parc Aberdâr yn gartref i goeden gas gan fwnci
sy'n rhywogaeth frodorol i dde America. Mae bellach yn cael ei hystyried fel
rhywogaeth mewn perygl – rhowch gynnig ar ddod o hyd iddi!

9. Mae'r parc yn dafliad carreg o ganol tref hyfryd
Aberdâr lle mae llwyth o bethau i'w gwneud!
10. Bwriwch olwg ar bethau eraill i'w harchwilio sy’n dafliad carreg o Aberdâr
