Posted: 03/12/2021
Am benwythnos yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.
Mae'r penwythnosau'n adeg berffaith i grwydro, pori trwy nwyddau yn y siopau, ymweld ag amgueddfeydd ac orielau a mwynhau'r awyr iach a golygfeydd newydd.
Dyma gyfle i fwynhau pryd blasus ac ambell i ddiod efallai, aros mewn ystafell gyda golygfa, ac ymlacio mewn sesiwn yn y sba.
Croeso i Rondda Cynon Taf, De Cymru. Does dim angen pendroni dros gynlluniau ar gyfer y penwythnos gan fod gyda ni nifer o bethau i'w gwneud.
Rydyn ni wedi dewis ychydig o'n hoff leoliadau i dreulio penwythnos i ffwrdd a fydd yn rhoi cyfle i chi ymlacio a mwynhau.
Yn ôl ein hamcangyfrifon, bydd pob profiad yn para hanner diwrnod felly mae modd dewis a dethol i greu diwrnod perffaith. Rydyn ni wedi cynnwys llefydd i aros a bwytai!
Gofyn am e-lyfryn
Taith Pyllau Glo Cymru

Rydyn ni'n enwog ledled y byd am ein diwydiant mwyngloddio. Mae Taith Pyllau Glo Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ddathliad o hynny. Dyma atyniad a gafodd ei adeiladu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr. Mae simnai'r lofa yn denu'r llygad o bob cwr o'r dirwedd leol.
Mae safleoedd gwreiddiol y lofa, gan gynnwys yr ystafell lampau a thŷ weindio, yn rhan o'r daith ddiddorol, rhyngweithiol a realistig sy'n dechrau gyda'ch tywyswyr.
Cyn-lowyr ydyn nhw a byddan nhw'n rhannu eu profiadau emosiynol, doniol ac weithiau torcalonnus â chi yn ystod y daith.
Mae'r amgueddfa'n llawn arddangosfeydd, cyfleusterau rhyngweithiol ac hen eitemau, gan gynnwys hen loches rhag bomio'r Ail Ryfel Byd. Mae modd dysgu am fwyngloddio yng Nghwm Rhondda trwy'r oesoedd – o Isambard Kingdom Brunel i ryfeloedd y byd a mordaith drychinebus y Titanic.
Ewch i'r Chocolate House i brynu anrheg felys – neu ymuno â gweithdy creu siocledi.
Mwynhewch yr oriel ar y llawr cyntaf ac mae rhaid manteisio ar y cyfle i fynd i Craft of Hearts. Mae modd prynu eitemau neu ymuno â gweithdy.
Galwch heibio i Caffè Bracchi, sy'n ddathliad o'r siopau coffi a hufen iâ (Bracchis) a agorwyd gan bobl o'r Eidal a ddaeth i'r ardal yn ystod y ffyniant diwydiannol.

Sbwyliwch eich hun
- Ymlaciwch ym Mharc Gwledig Barry Sidings, sydd â llynnoedd, teithiau cerdded, llwybrau mynydd a llawer yn rhagor. Mae'r caffi yn gweini coffi ac ysgytlaethau anhygoel – dyma ffordd wych o ddianc rhag pob dim.
- Mae siop Sub Zero Ice Cream ychydig filltiroedd o Drehafod. Mae dros 60 blas o hufen iâ ar gael. Cewch chi hufen iâ mewn côn, ar waffl, crêpe, neu'n rhan o sundae blasus!
- Mae Gwesty a Sba Lanelay Hall yn syfrdanol. Mae'r sba fel gwesty moethus yn Bali.

Arhoswch dros nos
Mae Gwesty'r Parc Treftadaeth, sydd newydd gael ei adnewyddu, o fewn tafliad carreg i Daith Pyllau Glo Cymru. Mae ystafelloedd cyfforddus ar gael a bwydlen sy'n boblogaidd gyda'r bobl leol.

Bwytai
Mae gan ardal Pontypridd nifer o fwytai. Mae'r rhain yn cynnwys Bunch of Grapes sydd wedi ennill gwobrau di-ri dros y blynyddoedd am ei fwyd a diod, ac Alfred's Bar and Grill sy'n cynnig mannau bwyta dan do ac awyr agored yng nghanol y dref.

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant
Symudodd Profiad y Bathdy Brenhinol o Lundain i Lantrisant dros 50 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynhyrchu arian y DU, ynghyd ag arian dros 40 o wledydd gwahanol.
Beth yw hanes y darnau arian yn ein pocedi? Pa mor drwm yw medalau'r Gemau Olympaidd sy'n cael eu creu yma? Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn mynd â chi y tu ôl i'r llenni gan adrodd yr hanes. Bathwch eich darn arian eich hun a mwynhau arddangosfeydd rhyngweithiol.
Rhaid i'r rheiny sy'n casglu darnau arian fynd i'r siop anrhegion ac mae caffi ar y safle i gymryd saib ar ôl eich taith.

Sbwyliwch eich hun

- Mwynhewch de prynhawn ar dir Gwesty Miskin Manor. Mae podiau i'w gweld wrth ochr y nentydd yn y gerddi hardd. Cewch chi aros dros nos hefyd.
- Dysgwch am hanes Llantrisant. Ewch i ôl paned neu goctel, gweld y castell a phori trwy nwyddau yn y siopau a'r orielau.
- Mwynhewch yr awyr iach trwy fynd am dro ar Gomin Llantrisant – mae teithiau cerdded â thywysydd ar gael yma.
Arhoswch dros nos
Mae Gwesty a Sba Lanelay Hall yn anhygoel. Mae gan bob ystafell ddyluniad unigryw ac mae'r bwyd a diod yn wych! Cofiwch fanteisio ar gyfleusterau'r sba a'r pwll nofio.

Bwytai
Mae gan ardal Tonysguboriau ystod wych o fwytai, gan gynnwys La Trattoria sy'n gweini pizza wedi'i wneud â llaw a La Luna sy'n cynnig man bwyta awyr agored cudd.

Distyllfa Wisgi Penderyn, Penderyn.
Mae'r glawiad sydd yn nentydd oer deheuol y Bannau Brycheiniog yn helpu i wneud wisgi Penderyn sydd wedi ennill gwobrau.
Mwynhewch daith y tu ôl i'r llenni. Dysgwch sut mae'r ardal fach yma o Gymru yn creu cynnyrch unigryw sy'n boblogaidd ledled y byd ac sy'n cystadlu â rhai brandiau enfawr o'r Alban ac Iwerddon.
Bydd cyfle i flasu'r wisgi, wrth gwrs, yn ogystal â gwirodydd eraill wedi'u gwneud yn y ddistyllfa, gan gynnwys jin, fodca a gwirod â blas hufen. Cewch chi brynu anrheg i rywun arbennig, neu i chi eich hun, yn y siop anrhegion.
Sbwyliwch eich hun
- Crwydrwch gopa mynydd Rhigos, ceisio gweld hen adfeilion Rhufeinig a mwynhau hufen iâ.
- Does dim rhaid cyfrif calorïau ar wyliau! Mwynhewch y pysgod a sglodion gorau (maen nhw'n blasu'n well yn yr awyr agored) o Penaluna's Famous Fish and Chips yn Hirwaun. Dyma siop sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n defnyddio cynnyrch o ffynonellau cynaliadwy.
-

Arhoswch dros nos
Mae Gwesty Gwledig y Tŷ Newydd dim ond ychydig dros fillter o bentref Penderyn ac mae gan y gwesty olygfeydd ysblennydd o'r Bannau Brycheiniog. Mae ystod o ystafelloedd ar gael a bwyty Caradog.

Bwytai
Mae tafarn y Red Lion ym Mhenderyn yn gweini prydau traddodiadol wedi'u gwneud o gynnyrch lleol ac mae ganddi gegin pizza goed. Mae modd dod o hyd i'r Brynfynnon Inn yng Nghoedwig Llanwynno, sy'n ardal hyfryd i fynd am dro. Ewch i weld y rhaeadr a'r gronfa ddŵr. Roedd yr ardal yma'n arfer bod yn fan hyfforddi Guto Nyth Brân, dyn cyflymaf y byd ar un adeg. Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob Nos Galan er mwyn cadw chwedl y rhedwr yn fyw.

Crochendy Nantgarw

Cafodd llestri a gafodd eu hystyried ymhlith y goreuon yn y byd eu gwneud yma dros 200 o flynyddoedd yn ôl. Byddai'r llestri yma'n addurno byrddau boneddigion a boneddigesau o Rwsia.
Nantgarw yw unig grochendy'r 19eg Ganrif yn y DU. Mae darnau o waith i'w gweld ar raglen deledu Antiques Roadshow yn rheolaidd. Mae pobl yn eu hedmygu am eu meinder ac arwyddocâd hanesyddol. Mae cefnogwr Antiques Roadshow, Henry Sandon, yn ymddiriedolwr.
Yn ogystal â dathlu a gwarchod ei hanes, mae Nantgarw yn symud ymlaen trwy fod yn gartref i arlunwyr a sesiynau celf a chrefft rheolaidd.
Mae darnau bach o'r crochenwaith gwreiddiol wedi'u defnyddio i greu gemwaith y mae modd ei brynu.
Sbwyliwch eich hun
- Treuliwch brynhawn ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ewch i weld yr ardd isel a llwybrau â choed ar y ddwy ochr.
- Ewch i Ynys-hir i fwynhau The Worker's Gallery sydd ag ystod anhygoel o arddangosfeydd celf, ffotograffiaeth a chrefftau.
- Ewch i ymweld â Chastell Coch, sy’n agos i Grochendy Nantgarw.

Arhoswch dros nos
Mae'n brofiad ysblennydd aros yng Ngwesty Gwledig Miskin Manor. Dyma blasty hardd wedi'i adfer sydd â bwyty a chlinig iechyd a lles. Mwynhewch bryd o fwyd yn y plasty neu mewn pod sydd yng nghanol y tir hyfryd.

Bwytai
Mae Otley Brewpub and Kitchen yn dafarn a bwyty annibynnol ac yn ficro-fragdy. Mae'n enwog am ei fwyd stryd a chwrw crefft wedi'i fragu gartref a chiniawau dydd Sul anhygoel. Beth am fynd i'r Gatto Lounge? Dyma fwyty newydd ym Mhontypridd ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Ewch i fwynhau amgylchedd soffistigedig, hamddenol â bwyd a diod gwych.

Golygfeydd newydd
Does dim dwywaith amdani – rhaid sôn am fannau agored Rhondda Cynon Taf! Dyma ffordd berffaith o dreulio ychydig oriau ym myd natur, boed hynny trwy fynd am dro, rhedeg, beicio neu weld y golygfeydd ar gefn ceffyl.
Taith gerdded hamddenol wrth ochr yr afon neu antur cyffrous i fyny mynydd? Chi sy'n dewis!
Dyma rai o'n ffefrynnau ni:
Mae llwybr mynydd Pen-pych yn heriol ond mae'r golygfeydd yn werth yr holl ymdrech. Dechreuwch ym Mlaen-cwm, Rhondda Fawr, a cherdded drwy'r goedwig, heibio'r rhaeadr ac i fyny'r mynydd i weld un o olygfeydd gorau Cymru.

Golygfan Rhigos
Ar ôl mynd i weld golygfeydd hardd o'r Bannau Brycheiniog, cewch chi gerdded taith gylchol o faes parcio golygfan Rhigos. Mae llawer o lwybrau i'w dilyn a thrysorau i'w gweld – cofiwch chwifio ar y rheiny sy'n hedfan dros y gronfa ddŵr yn rhan o atyniad Zip World Tower!

Mae cronfa ddŵr Maerdy yn fan agored hyfryd i chi ei grwydro. Bydd modd i chi weld adfeilion Castell Nos. Yn ôl pob tebyg, arglwyddi Cymreig o Feisgyn, disgynyddion Iestyn ap Gwrgant, brenin olaf Cymreig Morgannwg a adeiladodd y castell.

Mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr gannoedd o erwau o dir. Mae teithiau â thywysydd sy'n addas i bawb – o lwybrau sy'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i lwybrau i fyny mynyddoedd. Yn ogystal â hynny, mae hefyd yn lle gwych ar gyfer cyfleusterau beicio a stablau marchogaeth. Mae modd i'r rheiny â charafán a cherbyd gwersylla aros ar y safle. Mae gan bob lle carafán gyflenwad trydan a chyfleusterau golchi llestri a chawodydd modern. Rhaid hefyd sôn am Black Rock Café sy'n gweini bwyd hyfryd!

Mae Llwybr Taith Taf yn rhedeg o Gaerdydd i'r Bannau Brycheiniog, gan fynd trwy Rondda Cynon Taf. Mae modd ymuno â'r llwybr wrth sawl lleoliad gwahanol a'i ddilyn i'r gogledd neu i'r de.

Gofyn am e-lyfryn
You may also like:
Adventures in Rhondda Cynon Taf
Great places to stay