Mae'r dudalen we yma'n cynnwys gwybodaeth am y broses adfer barhaus a sylweddol yn dilyn tirlithriad Tylorstown.
NEWYDDION: Cynnydd pwysig o ran gwaith draenio ar safle Tirlithriad Tylorstown (Medi 2026)
Mae'r Cyngor wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gwaith parhaus ar safle Tirlithriad Tylorstown, sy'n parhau i ganolbwyntio ar y gwaith estynedig yn rhan o Gam Pedwar y Cynllun Adfer. Mae'r gwaith yma bron wedi'i gwblhau.Darllenwch yma
Ar 16 Chwefror, 2020, bu tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown, pan gafodd Rhondda Cynon Taf ei daro gan dair storm o fewn cyfnod byr. Achoswyd y tirlithriad gan Storm Dennis - storm na welwyd ei thebyg ers 200 mlynedd. Cofnodwyd bod y nifer fwyaf o law wedi syrthio yn y Maerdy, sydd ben uchaf Cwm Rhondda Fach, i gymharu â'r un man arall yng Nghymru. Mae'r safle yn domen Categori D ac roedd yn cael ei archwilio bob tri mis yn erbyn meini prawf monitro cyn y storm. Rydyn ni'n archwilio'r domen yn fwy aml ers hynny.

Sut olwg oedd ar y tirlithriad ar ôl iddo ddigwydd ym mis Chwefror 2020 (uchod) ac ardal y tirlithriad yn dilyn Cam Tri yn ystod yr hydref, 2021 (isod)

Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, cuddiodd bibell ddŵr strategol gyda sawl metr o rwbel a llwybr troed a llwybr beicio. Cafodd yr ardal ei chau i’r cyhoedd ar unwaith er mwyn sicrhau eu diogelwch.
Mae'r Cyngor yn dilyn cynllun adfer pedwar cam, fel sydd wedi'i amlinellu isod:
- Cam Un - Draenio ar frys a chlirio llystyfiant (wedi'i gwblhau yn yr wythnosau yn dilyn y tirlithriad).
- Cam Dau- Atgyweirio erydiad glan yr afon (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Mehefin 2021).
- Cam Tri- Symud deunydd i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau cerdded dros dro (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Mehefin 2021). Cafodd cam ychwanegol o waith ei gwblhau i sefydlogi'r llethr ger yr unig lwybr troed oedd ar gau yn yr hydref, 2021.
- Cam Pedwar - Gwaith adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Hydref 2022 a dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2023. Mae'r rhaglen ddraenio wreiddiol a chwmpas y gwaith wedi'u hymestyn yn sylweddol ac maen nhw'n mynd rhagddyn nhw yn ystod 2026/27.
- Llwybrau beicio a safleoedd derbyn - Gwaith gwella mewn perthynas â sawl strwythur ar hyd y Llwybr i'r Gymuned arfaethedig. Bydd arwyneb newydd ar y llwybr a bydd y gwaith i'r safleoedd derbyn wedi'i gwblhau.
Cam Dau a Cham Thri
Ar 10 Mehefin 2020, fe wnaeth y Cyngor gyhoeddiad yn amlinellu ei fwriad i gychwyn ail a thrydydd cam y gwaith - gan ddechrau erbyn diwedd mis Mehefin a dod i ben yn ddiweddarach eleni, yn unol â chyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gweithio yn yr afon o ddiwedd Hydref ymlaen. Cadarnhaodd y cyhoeddiad bod y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynghylch yr opsiynau cyllido i dalu costau Camau Dau a Thri, sef oddeutu £2.5 miliwn, yn ôl yr amcangyfrifon.
Dyma Arweinydd y Cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, yn siarad cyn dechrau Cam Dau o Cham Tri ym mis Mehefin 2020:
Fe wnaeth y Cyngor benderfyniad Dirprwyedig Brys ar 11 Mehefin 2020, i symud ymlaen â'r gwaith ac i benodi contractwr.
Mae'r gwaith i gyflawni Cam Dau a Cham Tri yn dechrau ddydd Llun, 29 Mehefin 2020 - wedi i'r Cyngor benodi cwmni Walters yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun. Mae Walters, a fu'n gyfrifol am waith Cam Un hefyd, yn gontractwr lleol profiadol sydd wedi bod yn rhan o gynlluniau tomenni tebyg yn y gorffennol.
Cafodd Cam Dau a Cham Tri'r cynllun eu cwblhau ar 25 Mehefin, 2021. Roedd hyn ar ôl cwblhau nifer o agweddau pwysig o'r gwaith ar y safle - megis symud y deunydd oedd wedi llithro o lawr y dyffryn, adfer cwrs dwr a lefel yr afon a gwaith draenio sylweddol.

Effaith ecolegol
O ran yr effaith ecolegol, cynhaliwyd nifer o arolygon gan ecolegwyr ymgynghorol ac ecolegydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (mewn perthynas â chlirio isdyfiant a choed o'r safleoedd derbyn - ynghyd â'r effaith ar fflora a ffawna).
Mae'r swyddogion yma'n parhau i weithio gyda'i gilydd i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd lle bynnag fo hynny'n bosibl. Mae'r safleoedd derbyn terfynol yn cael eu hystyried yn ofalus, gan ystyried sut y bydd hyn o fudd i ecoleg dyffryn yr afon.
Safleoedd derbyn
Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n berchen ar y ddau safle derbyn, ac maen nhw i'r gogledd o safle'r tirlithriad, ger yr hen reilffordd. Roedd Safle Derbyn B (sydd agosaf at y safle tirlithriad) yn rhan o hen gilffyrdd y rheilffordd, ac roedd Safle derbyn A yn rhan o hen bwll glo.
Cafodd cais cynllunio ar gyfer y derbynyddion (dros dro) i ddal gwastraff y tirlithriad ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw gael eu gosod, a chafodd hyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ei gyfarfod ddydd Iau 21 Ionawr 2021. Mae modd gweld agenda’r cyfarfod yma.
Yn ystod y gwanwyn 2024, cafodd yr holl waith ei gwblhau ar Safle Derbyn A2. Mae swyddogion y Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at weithredu'r gwaith olaf yn Safle Derbyn B.
Mae gosod deunydd y tomenni ar y safleoedd yma'n lleihau faint o ddeunydd fyddai angen ei symud ar hyd y briffordd gyhoeddus fel arall. Mae'r safleoedd derbyn hefyd wedi sicrhau bod y gwaith ehangach yn hunangynhwysol - gan leihau ôl troed carbon y gwaith. Er enghraifft, nifer fach o gerbydau o'r safle sydd wedi bod yn defnyddio'r briffordd gyhoeddus. Fel arfer, byddai nifer o gerbydau yn achosi sŵn, dirgryniadau, llygredd aer, llwch a difrod i'r ffordd gerbydau. Amcangyfrifwyd y byddai'r broses o symud 60,000 tunnell o ddeunydd wedi gofyn am 6,000 o deithiau gan lorïau. Mae defnyddio'r safleoedd derbyn wedi osgoi hyn.
Cam Pedwar
Cynhaliodd y Cyngor Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda'r gymuned ym mis Ionawr a mis Chwefror 2022, fel bod modd i drigolion ddweud eu dweud ar Gam Pedwar – gyda'r adborth a ddaeth i law yn helpu Swyddogion i gwblhau'r cais cynllunio. Cafodd arddangosfa gyhoeddus ei threfnu gan Swyddogion yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach (19 Mai 2022) i drigolion fynychu a chael y newyddion diweddaraf ar y cynnydd hyd yna.
Cafodd caniatád cynllunio llawn ei roi ar gyfer Cam Pedwar gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ym mis Hydref 2022.
Mae'r caniatâd cynllunio a gafodd ei roi ar gyfer Cam 4 (cyf. 2022/0600/08) yn cynnwys symud deunydd pwll glo i safle cyfagos i'r domen, ac ailbroffilio/sefydlogi safle'r domen uchaf. Mae hefyd yn cynnwys gwaith draenio newydd, creu llwybrau mynediad, aildyfu llystyfiant a gwaith ategol. Mae rhagor o wybodaeth ar borth cynllunio'r Cyngor, yma. Mae modd gweld copïau caled o ddogfennau yn Llyfrgelloedd Porth, Glynrhedynog a Phontypridd.
Prichard's Contracting yw'r contractwr sydd wedi cael ei benodi, mae'r cwmni wedi'i leoli yn Llantrisant. Dechreuodd y cwmni'r prif waith ar gyfer Cam 4 ym mis Ebrill 2023.
Mae'r lluniau yma o'r awyr o Fehefin 2024 yn dangos hynt gwaith Cam Pedwar.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno dau gais cynllunio pellach ym mis Rhagfyr 2022, sy'n ymwneud â gwaith arfaethedig mewn derbynleoedd o fewn Cam Dau/Tri o'r cynllun adfer. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun plannu coed arfaethedig ar gyfer Derbynle A2 (cyf. 22/1477/08) a seddi mainc arfaethedig, pontydd troed bach dros sianeli draenio sy'n cysylltu â'r rhwydwaith llwybrau lleol, paneli dehongli a 'nodwedd camu cerrig' ar gyfer Derbynle B (cyf. 22/1476/08). Mae'r dolenni sydd wedi'u cynnwys uchod yn rhoi rhagor o wybodaeth ar borth cynllunio'r Cyngor.
Ymestyn gwaith Cam Pedwar yn Sylweddol
Mae'r rhaglen ddraenio fawr yng Ngham Pedwar wedi'i hymestyn yn sylweddol fel mesur angenrheidiol, a hynny o ganlyniad i ddod o hyd i ddŵr yn dod i mewn a newidiadau gyda'r dopograffeg waelodol.
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ym mis Mehefin 2025 am waith y seilwaith draenio, a nodwyd bod maint Tomen Uchaf Llanwonno wedi'i ostwng yn sylweddol a'i bod wedi'i hailbroffilio. Nodwyd hefyd fod cynllun tymor hwy ar gyfer rheoli tir a chynefinoedd yn cael ei roi ar waith, yn ogystal â system o fonitro technegol a fydd yn cael ei gosod. Erbyn y pwynt yma, roedd un o'r safleoedd derbyn a ddefnyddiwyd yn ystod camau cynharach y gwaith (ger Heol yr Orsaf, Glynrhedynog) wedi troi'n gyfleuster hamdden parhaol ar gyfer beiciau BMX. Mae'r llun isod o fis Mehefin 2025.

Mewn diweddariad ddiwedd mis Medi 2026, nodwyd y cynnydd sylweddol a oedd wedi cael ei wneud gyda gwaith y seilwaith draenio.
Cafodd y prif ddraeniau sy'n casglu dŵr o'r domen sydd wedi'i hailbroffilio eu cwblhau, ac aeth gwaith pwysig i arafu llif y dŵr ragddo ar y safle. Cafodd y safle derbyn y tu ôl i'r domen (ger Old Smokey), y safle a dderbyniodd swm mawr o wastraff y domen uchaf, ei adfywio'n llwyddiannus.
Nodwyd hefyd fod y contractwr yn defnyddio peiriannau arbenigol (yn y llun) i atgyweirio a chynnal a chadw gollyngfa'r sianel sydd wedi'i lleoli islaw cwymp dŵr newydd.

Mae hyn ar gyfer diogelu llif y dŵr ffo heibio ymyl ddeheuol y domen isaf, ar gyfer y dyfodol. Mae gwaith hoelio pridd ar waelod gollyngfa A i'w weld yn y llun isod. Mae hyn yn cynrychioli'r gwaith mawr olaf ym mhen isaf y safle, cyn i'r contractwr symud i fyny'r bryn, tuag at sefydlu llwybr cynnal a chadw a chreu llwybr troed a fydd yn cysylltu â llwybrau troed presennol a Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach. Dyma lwybr 10 cilomedr o hyd i gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Tylorstown.
Cafodd hyn ei gwblhau dros bedwar cam o waith rhwng 2023 a 2026. Y rhan olaf oedd y rhan rhwng Canolfan Hamdden Rhondda Fach a throsbont Stanleytown, a agorwyd yn yr haf, 2026. Dyma dudalen we bwrpasol ar gyfer y llwybr, gan gynnwys map a fideo sy'n dangos y llwybr cyfan ar feic.
Gwaith ehangach Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â Thomenni Glo
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers y tirlithriad yn ardal Tylorstown. Mae'r gwaith yma wedi cynnwys gofyn i Gomisiwn y Gyfraith werthuso'r ddeddfwriaeth gyfredol o ran rheoli diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021. Manylion:
Yn dilyn hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wahân ynglŷn â'i Phapur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo o 12 Mai 2022. Manylion:
Offer monitro wedi'i osod ar y domen yn Wattstown
O fis Tachwedd 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys adnodd ar ei gwefan lle mae modd i drigolion chwilio am leoliad a ffiniau pob tomen lo Categori C a D segur yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth a defnyddio'r adnodd yma, cliciwch ar y ddolen ganlynol.