Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cynnal Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog yn Rhydfelen, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod draw i gwrdd a sgwrsio â phobl o'r un cefndir â nhw.
16 Medi 2021
Cyn bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwella ei gasgliadau gwastraff gwyrdd / o'r ardd cyfredol trwy gyflwyno sach NEWYDD y mae modd ei hailddefnyddio i gasglu'ch holl wastraff gwyrdd / o'r ardd.
13 Medi 2021
Mae'r Cyngor yn lansio ymgyrch 'Paratoi at COP26' yn rhan o'r rhaglen 'Dewch i siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT'. Bwriad hyn yw annog trigolion i drafod materion yr hinsawdd, yn ogystal â'u hystyried a chymryd camau i'w gwella.
12 Medi 2021
Bydd y Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad lle gall preswylwyr ddweud eu dweud ar Gynllun Strategol Cymru mewn Addysg (WESP). Bydd yr adborth a dderbynnir yn ystod y broses yma yn helpu i lywio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg...
10 Medi 2021
Mae gwaith bellach ar y gweill i ddymchwel hen adeiladau cartref gofal Dan y Mynydd yn nhref Porth. Byddai hyn yn galluogi Linc Cymru a'r Cyngor i ailddatblygu'r safle yn y dyfodol i fod yn gyfleuster Gofal Ychwanegol
10 Medi 2021
Mae contractwr y Cyngor ar gyfer atgyweirio pontydd yn Abercynon, Walters Ltd, wedi gwirfoddoli i glirio erw o dir ar gyfer Cynon Valley Organic Adventures er mwyn helpu'r fenter gymdeithasol i ddatblygu ei gwaith cymunedol gwerthfawr
09 Medi 2021
Wrth ymateb i'r galw gan y cyhoedd, mae dwy sesiwn nofio newydd yn ystod y dydd ar gael yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Bydd y sesiynau ar gael hyd at ddiwedd y tymor, sef 3 Hydref.
09 Medi 2021
Mae'r Cyngor yn falch o gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys!
09 Medi 2021
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir AM DDIM, ddydd Mercher 22 Medi, 10am-5pm. Mae'n dilyn llwyddiant ysgubol Ffair Yrfaoedd Rithwir gyntaf RhCT yn gynharach eleni.
08 Medi 2021
Mae'r Cyngor yn rhoi gwybod ymlaen llaw bod gwaith ar y gweill ym maes parcio'r Stryd Fawr, Aberdâr. Bydd gan y maes parcio lai o leoedd parcio o 27 Medi wrth i'r Cyngor gyflawni cynllun gwella sylweddol
08 Medi 2021