Mae'r Cyngor yn lansio ymgyrch 'Paratoi at COP26' yn rhan o'r rhaglen 'Dewch i siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT'. Bwriad hyn yw annog trigolion i drafod materion yr hinsawdd, yn ogystal â'u hystyried a chymryd camau i'w gwella.
Bydd COP26, sef Cynhadledd Pleidiau'r Cenhedloedd Unedig, yn cwrdd yn ninas Glasgow ym mis Tachwedd. Y DU fydd yn gyfrifol am gynnal yr achlysur, a bydd arweinwyr o 196 gwlad yn cyfarfod i drafod eu cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau yn ogystal â chamau i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd a'i effeithiau, megis tywydd eithafol a lefelau'r môr yn codi.
Mae Rhondda Cynon Taf wedi wynebu tywydd garw difrifol dros y blynyddoedd diwethaf - y digwyddiad diweddaraf oedd Storm Dennis, a gafodd effaith ddinistriol ar rannau o'r Fwrdeistref Sirol yn 2020.
Mae adroddiad newydd gan wyddonwyr y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod tymereddau byd-eang wedi codi'n gyflymach ers 1970 nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y 2,000 o flynyddoedd diwethaf.
Bwriad ymgyrch 'Paratoi at COP26' y Cyngor, a fydd yn para 50 diwrnod, yw codi ymwybyddiaeth o'r argyfwng o ran yr hinsawdd - yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Cynhadledd Hinsawdd COP26 yn cael ei hystyried yn gam hanfodol yn y gwaith o geisio rheoli newid yn yr hinsawdd. Yn rhan o'i Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, lansiodd y Cyngor ymgyrch newydd 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT' yn ddiweddar. Mae'r ymgyrch yma yn holi trigolion a busnesau beth yr hoffen nhw ei weld yn digwydd yma yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Roedd adroddiad Newid Hinsawdd diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn rhybudd difrifol i'r ddynol ryw, gan amlygu bod gweithgarwch ddynol yn newid ein hinsawdd mewn ffyrdd digynsail, ac weithiau ni ellir eu gwrthdroi - mae'r amser i weithredu nawr.
“Mae’r astudiaeth yn rhybuddio y bydd rhagor o dymereddau uchel, sychder a llifogydd eithafol, fel y'u profwyd ledled Ewrop eleni. Er mwyn osgoi trychineb byd-eang, mae angen i bawb wneud rhywbeth ynglŷn â hyn - boed hynny'n gam mawr neu fach.
“Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal sy'n llawn harddwch naturiol. Mae gan y sir nifer o barciau, parciau gwledig, ac amrywiaeth dda o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai planhigion ac anifeiliaid prin. Mae hi hefyd yn ardal sy'n falch o'i gorffennol diwydiannol, ac rydyn ni oll yn gyfrifol am ddiogelu'r dreftadaeth yma.
“Mae mwy na 240,000 o bobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.”
Ein nod yw sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Garbon Niwtral erbyn 2030 a bod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny hefyd.
Mae ein trigolion wedi ymateb yn dda i sioeau teithiol 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT', gan rannu nifer o'u barnau â'u syniadau gyda swyddogion y Cyngor.
Ymunwch â'n Sgwrs am yr Hinsawdd
Mae disgwyl i arweinwyr o bob cwr o'r byd drafod eu hamcanion ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn y digwyddiad COP26 yn ninas Glasgow, sy'n ymgais i sicrhau bod pob gwlad yn y byd wedi ymrwymo i sicrhau bod cynhesu byd-eang ddim yn gwaethygu'n fwy na 1.5%.
Gofynnir i wledydd nodi eu targedau o ran lleihau faint o nwyon tŷ gwydr - sy'n ychwanegu at gynhesu byd-eang - sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer erbyn 2030. Yn ogystal â hynny, bydd gofyn iddyn nhw ddweud sut maen nhw'n bwriadu cyrraedd statws 'net sero' (lle dyw swm y nwyon sy'n cael eu rhyddhau ddim yn uwch na swm y nwyon sy'n cael eu tynnu) erbyn 2050.
Mae llosgi tanwydd ffosil yn un o brif achosion yr allyriadau yma, felly gallai'r camau sydd eu hangen gynnwys dod â'r defnydd o lo i ben, atal datgoedwigo, newid i ddefnyddio cerbydau trydan a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021, a elwir hefyd yn COP26, yw'r chweched gynhadledd ar hugain o'r fath. Fe’i cynhelir yn ninas Glasgow, yr Alban, rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd.
Wedi ei bostio ar 12/09/21