Skip to main content

Lido Ponty.

Lido3

Wrth ymateb i’r galw gan y cyhoedd, mae dwy sesiwn nofio newydd yn ystod y dydd ar gael yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Bydd y sesiynau ar gael hyd at ddiwedd y tymor, sef 3 Hydref.

Yn ogystal â'r dwy sesiwn nofio ben bore a sesiynau gweithgareddau ar ôl yr ysgol sydd eisoes yn cael eu cynnal, mae modd i nofwyr fwynhau nofio hamddenol a nofio mewn lonydd rhwng 9.30am a 10.30am, a rhwng 2pm a 3pm, bob dydd yn ystod yr wythnos.

Bydd y pwll sblash gyda ffynnon hefyd ar agor yn ystod y sesiynau 9.30am-10.30am a 2pm-3pm. Mae'r rhain yn berffaith i rieni neu warcheidwaid â phlant iau sy ddim yn yr ysgol eto.

Mae hyn yn golygu y bydd modd i 120 o nofwyr ychwanegol y dydd – neu 700 yr wythnos – fwynhau cyfleusterau gwych Lido Ponty am y tair wythnos nesaf.

Bydd y penwythnos yn parhau'r un peth gyda sesiynau nofio ben bore a saith sesiwn gweithgareddau hwyl.

Mae tocynnau'r sesiynau newydd fydd yn cael eu cynnal rhwng dydd Llun (13 Medi) a dydd Iau (16 Medi) nesaf ar werth nawr ar www.lidoponty.co.uk.

Bydd tocynnau sesiynau dydd Gwener nesaf yn mynd ar werth saith diwrnod ymlaen llaw, yn unol â'r drefn arferol, am 7.30am yfory (10 Medi), ac wedyn saith diwrnod ymlaen llaw ar ôl hynny.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni wrth ein boddau bod modd ymateb i'r galw am gyfleoedd nofio ychwanegol yn ystod y dydd yn Lido Ponty.

“Bydd dwy sesiwn ychwanegol yn cael eu cynnal rhwng 9.30am a 10.30am, a rhwng 2pm a 3pm, bob dydd yn ystod yr wythnos am weddill tymor 2021. Mae hyn yn cyfateb i 700 o leoedd ychwanegol yr wythnos yn Lido Ponty.

“Diolch enfawr i'r garfan yn Lido Ponty, yn enwedig yr achubwyr bywydau, sydd wedi cytuno i weithio'r sesiynau ychwanegol. Mae gan lawer ohonyn nhw eu hymrwymiadau gwaith, coleg a phrifysgol eu hunain ond maen nhw wedi cytuno er mwyn ymateb i anghenion cymuned Lido Ponty”.

Cliciwch yma i weld amserlen ddiweddaraf Lido Ponty.

Cadwch le ar-lein: www.lidoponty.co.uk

Wedi ei bostio ar 09/09/21