Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf i gynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir

Ffair Yrfaoedd Rithwir

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir AM DDIM, ddydd Mercher 22 Medi, 10am-5pm. Mae'n dilyn llwyddiant ysgubol Ffair Yrfaoedd Rithwir gyntaf RhCT yn gynharach eleni.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn benderfynol o gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i drigolion trwy eu cysylltu â chyflogwyr sy'n mynd ati i recriwtio, ynghyd â darparu cyfleoedd i wella eu brasluniau gyrfa (CV) a magu hyder ar gyfer cyfweliadau.

Bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn yr achlysur ar-lein gofrestru ei fanylion/manylion cyn dechrau'r achlysur, yma: rctcareersfair.vfairs.com

Roedd Ffair Yrfaoedd Rithwir gyntaf RhCT yn gynharach eleni yn llwyddiant ysgubol. Rhoddodd gyfle i bobl fynychu a gweld y cyfleoedd oedd ar gael, ymgysylltu â chyflogwyr, a chymryd rhan mewn sesiynau sgiliau, i gyd o gysur eu cartrefi eu hunain.

Nod Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT ar 22 Medi yw adeiladu ar lwyddiant y Ffair Rithwir gyntaf, gan helpu i ddod â phobl yn agosach at gyfleoedd cyflogaeth yn eu hardal leol, heb yr angen i deithio i leoliad penodol i gymryd rhan.

Ar ben hynny, hyd yn oed os does dim modd i chi gymryd rhan ar y diwrnod, cyn belled â'ch bod chi wedi cofrestru o flaen llaw mae modd i chi wylio'r achlysur ar y wefan am 30 diwrnod.

Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn darparu amgylchedd 3D rhyngweithiol iawn gyda nifer o gwmnïau sydd â swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddiant i'w cynnig.

Bydd y Ffair Yrfaoedd Rithwir yn cynnwys nifer o weminarau wedi'u recordio ymlaen llaw a fydd yn darparu gwybodaeth ac yn bwrw goleuni ar rai o'r sefydliadau a'r cyfleoedd sydd ar gael, ynghyd â gweminarau sy'n rhoi cymorth i chi ar sut i lenwi ffurflen gais yn llwyddiannus ac sy'n cynnig technegau i chi eu defnyddio mewn cyfweliad.

Bydd modd i chi wneud y canlynol yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT:

  • Archwilio gwybodaeth a chyfleoedd sydd gan gyflogwyr i'w cynnig a dod o hyd i yrfa sydd orau i chi;
  • Dysgu a rhyngweithio â sefydliadau mewn perthynas â'r swyddi maen nhw'n eu cynnig;
  • Manteisio ar y cyfle i ddysgu rhagor am y sefydliadau sy'n cymryd rhan gan weithwyr recriwtio;
  • Edrych ar swyddi gwag a gwneud cais am swyddi â chwmnïau gwahanol;
  • Os bydd gweithiwr recriwtio yn eich dewis chi, efallai bydd yn ymgysylltu â chi ar ffurf testun un-wrth-un neu mewn sgwrs sain/fideo yn ystod y sesiwn recriwtio.

Mae ystod enfawr o gyflogwyr lleol a chenedlaethol eisoes wedi'u cofrestru ar gyfer yr achlysur, fel EE, y Fyddin a'r Llynges Frenhinol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Willmott Dixon, Tata Steel, Principality, Trafnidiaeth Cymru, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a llawer yn rhagor. Mae bwriad gan bob un ohonyn nhw recriwtio gweithwyr newydd.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn fyw ar un diwrnod, sef dydd Mercher 22 Medi, rhwng 10am a 5pm. Serch hynny, bydd modd gweld yr achlysur ar y wefan am 30 diwrnod yn dilyn yr achlysur, tan ddydd Gwener 22 Hydref 2021 am 23:59.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i'n falch iawn bod Cyngor Rhondda Cynon Taf  wedi bod yn arloesol unwaith eto er mwyn cynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT ym mis Medi. Dyma'r eildro eleni i'r Cyngor ddefnyddio technoleg, sydd wedi bod mor hanfodol wrth gadw pob un ohonon ni mewn cysylltiad â'n gilydd, i gyflawni rhwymedigaethau'r Cyngor i'n trigolion i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth.

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddenu swyddi o safon uchel i'r ardal leol ac i helpu ein trigolion i sicrhau swyddi cynaliadwy, dibynadwy sy'n talu'n dda. Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn un ffordd o fynd ati i gyflawni hyn. Trwy ddod â chyflogwyr i'r cymunedau lleol, mae gan ein trigolion gyfle i ryngweithio â busnesau, darganfod galwedigaethau nad ydyn nhw efallai wedi'u hystyried, ac efallai y byddan nhw hyd yn oed yn cael cynnig cyfweliad!

“Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i bobl, felly mae angen mawr am gyfleoedd o ran cyflogaeth a bydd cynnal yr achlysur trwy'r dull yma'n help mawr iddyn nhw.

“Mae modd cael mynediad at y Ffair Yrfaoedd Rithwir yn fyw ar ddydd Mercher 22 Medi, 10am-5pm, ond bydd gwybodaeth a gweminarau ar gael am 30 diwrnod yn dilyn yr achlysur, er mwyn i bobl gael y cyfle i'w gwylio eto.

“Os ydych chi wrthi'n chwilio am swydd, yn ystyried newid gyrfa, eisiau dechrau ar eich gyrfa, neu'n ystyried dychwelyd i'r gwaith, rydw i'n eich annog chi i gofrestru er mwyn cymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT."

I gymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT, sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru ar-lein erbyn dydd Mercher, 22 Medi, yma: rctcareersfair.vfairs.com

Wedi ei bostio ar 08/09/21