Skip to main content

Gwaith diogelu maes parcio'r Stryd Fawr yng nghanol tref Aberdâr at y dyfodol

View of entrance into High Street Car Park

Mae'r Cyngor yn rhoi gwybod ymlaen llaw bod gwaith ar y gweill ym maes parcio'r Stryd Fawr, Aberdâr. Bydd gan y maes parcio lai o leoedd parcio o 27 Medi wrth i’r Cyngor gyflawni cynllun gwella sylweddol.

Bydd y maes parcio, ger Eglwys Sant Elfan yng nghanol y dref, yn elwa ar gyfres o waith diogelu at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith gosod wyneb newydd ar ardal gyfan y maes parcio, gwaith draenio a gwaith gwella mynediad i gerddwyr – gan gynnwys adnewyddu'r ramp mynediad ac ardaloedd y peirannau talu am docyn.

Bydd y cynllun yn cael ei gynnal fesul cam, gan weithio yn un rhan o'r maes parcio cyn symud i ran arall. Bydd modd i'r maes parcio barhau i fod ar agor o ganlyniad i hyn. Serch hynny, bydd llai o leoedd parcio ar gael. Dyma ofyn i fodurwyr barcio mewn maes parcio arall lle bo modd yn ystod gwaith y cynllun.

Yng nghanol y dref, mae parcio arhosiad hir ar gael yn y meysydd parcio canlynol: Rock Grounds, Rhes y Nant, Adeiladau'r Goron a'r Ynys. Mae parcio arhosiad byr, hyd at bedair awr, ar gael ym meysydd parcio Sgwâr y Llyfrgell, Y Stryd Las a Stryd y Dug.

Bydd gwaith ym maes parcio'r Stryd Fawr yn dechrau ddydd Llun 27 Medi a bydd yn para tua chwe wythnos. Bwriad y gwaith yw cynnal a chadw'r maes parcio, yn ogystal â gwella diogelwch a hygyrchedd.

Mae gwella canol ei drefi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, sy'n cynnig Grant Cynnal Canol Trefi i helpu landlordiaid a pherchnogion busnesau i wella blaenau eu siopau. Mae Aberdâr yn un o chwe thref ledled y Fwrdeistref Sirol sydd â darpariaeth WiFi gyhoeddus am ddim.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned ac ymwelwyr â chanol y dref am eu cydweithrediad cyn dechrau'r gwaith ym maes parcio'r Stryd Fawr.

Wedi ei bostio ar 08/09/2021