Skip to main content

Cefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 2021

Emergency Services Day Flag

Mae'r Cyngor yn falch o gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys (dydd Iau 9 Medi). Dyma ddiwrnod sydd hefyd yn cael ei alw'n Ddiwrnod 999. Bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth ledled y wlad a hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei gynnal gan y gwasanaethau brys, 365 diwrnod y flwyddyn.

Hoffai'r Cyngor achub ar y cyfle yma i ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau brys am ofalu amdanon ni.

Mae hefyd yn briodol canu clodydd yr holl wirfoddolwyr sy'n rhan annatod o deulu'r gwasanaethau brys. Mae pob un yn chwarae rhan allweddol wrth gadw'r wlad yn ddiogel – gwirfoddolwyr megis Cwnstabliaid Gwirfoddol, Diffoddwyr Tân Wrth Gefn, Ymatebwyr Cymunedol y GIG, y Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol, Ambiwlans Sant Ioan, Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Badau Achub (RNLI), Chwilio ac Achub a Gwylwyr y Glannau.

Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae'r holl wasanaethau brys wedi bod yn eithriadol o brysur yn delio â'r pandemig byd-eang, sydd wedi cael effaith ar fywydau pob un ohonon ni. Maen nhw'n parhau i fod yn brysur iawn a dim ond mewn achos o argyfwng y dylid ffonio 999.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf: “Hoffwn i achub ar y cyfle yma i ddiolch i'n gweithwyr gwych y gwasanaethau brys ledled ein Bwrdeistref Sirol, Cymru a thu hwnt.

“Dyma'r bobl rydyn ni'n troi atyn nhw mewn argyfwng, ac sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i sicrhau ein diogelwch a'n lles.

“Mae ein gwasanaethau brys wedi gweithio trwy gydol y pandemig, yn ystod amgylchiadau heriol iawn. Ymunwch â fi trwy ddangos eich cefnogaeth ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys 2021."

Cefnogwch Ddiwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys ddydd Iau 9 Medi.

#Diwrnod999

Wedi ei bostio ar 09/09/21