Mae contractwr y Cyngor ar gyfer atgyweirio pontydd yn Abercynon, Walters Ltd, wedi gwirfoddoli i glirio erw o dir ar gyfer Cynon Valley Organic Adventures er mwyn helpu'r fenter gymdeithasol i ddatblygu ei gwaith cymunedol gwerthfawr.
Cafodd gwaith atgyweirio Pont Ynysmeurig yn Abercynon ei gwblhau yn ystod gwyliau'r haf. Roedd rhaid ailosod parapetau'r bont ac atgyweirio ac ail-bwyntio sylfeini'r bont. Yn ogystal â hyn, roedd rhaid ailadeiladu rhannau o wal yr afon sy'n cynnal Rhes yr Afon.
Yn rhan o'i waith ymgysylltu â'r gymuned, ymwelodd staff cwmni Walters â Cynon Valley Organic Adventures sydd wedi'i leoli ger Rhes yr Afon. Ar ôl dysgu am waith lleol y sefydliad, sy'n defnyddio ei ardd gymunedol a'i goetir i helpu unigolion sy'n angerdd dros yr amgylchedd, cynhaliodd y cwmni waith clirio sylweddol angenrheidiol ar gyfer prosiect ymchwil.
Ar hyn o bryd mae'r fenter gymdeithasol yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ymchwilio i fuddion 'rhagnodi cymdeithasol gwyrdd' ar iechyd a lles. Mae hyn yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i atgyfeirio pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur, fel garddio, gyda'r nod o sicrhau buddion meddyliol a chorfforol.
Meddai Janis Werrett, Cyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures: “Roedd cwmni Walters yn wych. Aethon nhw ati i gyflwyno eu hunain cyn iddyn nhw ddechrau gweithio ar y bont, a gwnaethon ni eu tywys o gwmpas a dangos yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Roedden nhw'n hollol hyfryd gyda'n gwirfoddolwyr.
“Gweithiodd tri aelod o’u staff ar ein safle am dri diwrnod, gan dynnu 10 centimedr o haen uchaf y pridd gyda pheiriannau trwm, yn ogystal â chynnal rhywfaint o waith amddiffyn rhag llifogydd. Roedd hynny mewn ardal tua erw o ran maint, a oedd yn llawn mieri wedi tyfu'n wyllt. Mae wedi arbed misoedd o waith i ni. Roedden nhw hyd yn oed wedi dod yn eu holau i wirio bod popeth yn iawn gyda'r gwaith. Roedden ni wedi'n siomi ar yr ochr orau gyda'u gwaith nhw.”
Mae'r gwaith wedi galluogi'r fenter gymdeithasol i ddatblygu eu gwaith archeolegol, yn rhan o'u hymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd a'r gwaith yn y gymuned.
“Rydyn ni'n cynnal llawer o weithgareddau gwyrdd wedi'u rhagnodi gyda phobl sy'n cael eu rhagnodi i ni gan feddygon a fferyllwyr, gan gynnwys pobl ag anawsterau dysgu a phobl ifainc sydd wedi ymddieithrio,” ychwanegodd Janis. “Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio ar erthygl am ragnodi gwyrdd i gyfnodolyn gyda Phrifysgol Caerdydd i ddangos tystiolaeth o effaith natur ar iechyd a lles pobl.
"Mae modd i ni archwilio’r paill trwy wahanol achlysuron hanesyddol, ail-greu hynny, a phenderfynu sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar y paill. Yn rhan o'r gwaith ymchwil yma, roedd angen tynnu haen o'r ddaear ar gyfer ein gwaith cloddio archeolegol. Bydd hyn yn cael ei gynnal gyda chymorth pobl leol sy'n cael eu cyfeirio aton ni.
“Rydyn ni'n agos iawn at y gymuned. Rydyn ni hefyd yn cynnal clybiau gwyliau'r haf, ac rydyn ni wedi cael ein henwebu am Wobr y Loteri Genedlaethol am ein gwaith gyda phlant yn ystod y pandemig. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i gwmni Walters am eu cymorth. Mae'r adborth rydyn ni wedi'i gael gan bobl leol am eu gwaith trwy gydol yr haf hefyd wedi bod yn gadarnhaol iawn.”
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae Cynon Valley Organic Adventures yn ymgymryd â gwaith amhrisiadwy yn y gymuned, ac rwy’n falch bod contractwr y Cyngor ar gyfer y gwaith atgyweirio pontydd diweddar yn Abercynon wedi gallu helpu gyda thasg mor sylweddol.
“Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda’r holl gontractwyr penodedig sy'n gweithio ar ein cynlluniau Priffyrdd a Thrafnidiaeth er mwyn rhoi gwybod i'r gymuned am natur y gwaith sydd ar y gweill ac unrhyw darfu tebygol yn lleol. Mae'n wych bod cwmni Walters wedi mynd yr ail filltir gyda'r gwaith gwirfoddol yma, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ymchwil y fenter gymdeithasol a'i gwaith yn y gymuned."
Ychwanegodd Nick Rolfe, Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Cymru) ar gyfer cwmni Walters: “Mae bob amser yn dda clywed bod modd i ni gyflawni ein gwaith bob dydd heb darfu gormod ar gymunedau lleol. Mae'n well byth os oes modd i ni ymgysylltu â'r cymunedau hynny ac os oes modd i bobl fedrus yn y sector peirianneg sifil gynnig buddion go iawn ar yr un pryd. Rydyn ni'n falch iawn o'n staff a'n rhan yn y prosiect yma."
Wedi ei bostio ar 09/09/21