Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi carreg filltir bwysig ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan, a hynny drwy gyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer y prosiect yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dyma gam pwysig i'r cyfeiriad cywir ar gyfer prosiect sydd â'r nod o greu coridor trafnidiaeth 4 cilomedr o hyd gyda llwybr cerdded a beicio yn rhedeg ochr yn ochr ag ef. Diben hyn oll yw mynd i'r afael â materion sydd wedi bodoli ers amser maith o ran tagfeydd traffig, diogelwch ar y ffyrdd, traffig cerbydau nwyddau ac ansawdd aer ar hyd yr A473 drwy Lanharan.
Mae'r cynigion wedi'u llunio er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar drafnidiaeth gynaliadwy, gan ganolbwyntio'n fwy ar gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n cynnwys mesurau i flaenoriaethu bysiau ar gyffyrdd allweddol, llwybr teithio llesol a rennir sy'n mynd ar hyd y llwybr cyfan, sawl croesfan â signalau, a nodweddion dylunio sydd â'r nod o leihau effaith amgylcheddol, osgoi colli coetiroedd hynafol, cynnal bioamrywiaeth a gwella draenio.
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid gwerth £660,000 ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol 2026/27. Nod Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru yw gwneud trafnidiaeth leol yn fwy hygyrch i bawb, a gwneud teithio o gwmpas yn haws, gan hybu a hwyluso cerdded, teithio modd olwynion, beicio, mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a theithiau lleol mwy diogel ledled Cymru.
Mae'r cyllid yna'n cyd-fynd ag ymrwymiad ariannol sylweddol y Cyngor ei hun i'r prosiect, gyda'r Cabinet yn cytuno yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth i ddyrannu gwerth £4.5 miliwn iddo yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd a Pheirianneg 2026/27.
Mae'r cais cynllunio yn dod yn sgil ymgynghoriad 'cyn cyflwyno cais' ar gyfer y prosiect, a gafodd ei gynnal gyda'r cyhoedd yn hydref 2025. Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i drigolion, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid wneud sylwadau ar y cynlluniau diwygiedig. Mae adborth o'r broses yma wedi helpu i fireinio'r cynigion ar gyfer y cais cynllunio ffurfiol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae cyflwyno’r cais cynllunio llawn ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn garreg filltir allweddol i’r prosiect yma ac i’r ardal ehangach. Mae'n adlewyrchu llawer iawn o waith i ddatblygu prosiect sy'n ymateb i broblemau trafnidiaeth leol sydd wedi bodoli ers amser maith, ac mae sylw mawr ar deithio cynaliadwy hefyd.
“Nod y prosiect yma yw ei gwneud hi’n haws i bobl deithio o gwmpas, boed hynny ar fws, ar droed, ar feic neu'n rhan o deithiau lleol bob dydd. Bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd, gwella diogelwch ar y ffyrdd ac ymdopi ag effaith llawer iawn o draffig drwy Lanharan.
“Rydyn ni'n croesawu’n fawr y cyllid gwerth £660,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27. Mae'r cyllid gwerth £4.5 miliwn a gafodd ei gytuno yn ein Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg yr wythnos ddiwethaf hefyd yn arwydd o ymrwymiad ariannol y Cyngor i'r prosiect. Mae'n dangos yn amlwg ein bod ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod y prosiect pwysig yma'n mynd yn ei flaen i'r cam nesaf.
"Dros y degawd diwethaf, mae'r Cyngor wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn priffyrdd a seilwaith ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi mabwysiadu dull hirdymor oherwydd ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw seilwaith da i'n cymunedau, ein heconomi ac ansawdd bywyd bob dydd. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn cynnal a chadw ffyrdd, atgyweirio pontydd a strwythurau, gwella cydnerthedd yn erbyn llifogydd, hybu teithio llesol a datblygu cynlluniau trafnidiaeth sylweddol ar gyfer y dyfodol. Mae'r buddsoddiad parhaus yna wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae'r garreg filltir yma'n gam cadarnhaol arall i'r cyfeiriad cywir.”
Mae Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn parhau i fod yn un o brosiectau trafnidiaeth strategol allweddol y Cyngor ar gyfer y dyfodol, ac mae cyflwyno'r cais cynllunio yn gam mawr tuag at gyflawni cynllun sydd â'r nod o gefnogi cymunedau lleol drwy wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Rhondda Cynon Taf.
Wedi ei bostio ar 24/03/2026