Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu dyfarniad sylweddol gwerth £2.01 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy fenter Prifddinas Ranbarth-Caerdydd tuag at ddatblygiad pellach Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon. Mae’r prosiect trafnidiaeth pwysig yma’n rhan allweddol o Gynllun Trafnidiaeth Leol 5 mlynedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a bydd yn helpu i gysylltu pobl a llefydd yng ngogledd Cwm Cynon yn well, ac yn cefnogi twf hirdymor yr ardal.
Mae’r cyllid i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dod o Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol 26/27 Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wneud trafnidiaeth leol yn fwy hygyrch i bawb a helpu pobl i deithio o gwmpas yn haws.
Mae'r cyllid yn ychwanegol at y £603,000 sydd eisoes wedi'i nodi ar gyfer y prosiect yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg 2026/27 y Cyngor, a gafodd ei gytuno gan y Cabinet ar 18 Mawrth. Mae hyn yn mynd â'r prosiect sydd wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i'r ardal gam ymhellach fyth.
Ffordd gyswllt 1.2 cilomedr o hyd yw Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon. Mae'n bwysig o safbwynt strategol gan y bydd yn cysylltu'r A4059, Ffordd Osgoi Aberdâr â'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Y bwriad yw cryfhau cysylltiadau trafnidiaeth o'r gogledd i'r de rhwng Llwydcoed a Phen-y-waun, gwella mynediad ledled yr ardal, a helpu i leddfu tagfeydd ar lwybrau lleol. Mae'r prosiect hefyd yn rhan o gynlluniau ehangach i gysylltu trafnidiaeth yn well a chefnogi twf economaidd yng Nghwm Cynon.
Mae'r Cyngor wedi parhau i ddatblygu'r prosiect dros y blynyddoedd diwethaf, gan benodi AtkinsRéalis ym mis Medi 2025 i helpu i gyflawni'r gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:
“Mae'r newyddion yma i Rondda Cynon Taf ac yn enwedig i ogledd Cwm Cynon yn gadarnhaol. Mae Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon yn brosiect pwysig, sydd â'r potensial i wella cysylltiadau, mynd i'r afael â heriau trafnidiaeth sydd wedi bodoli ers amser maith, a chefnogi buddsoddiad yn yr ardal yn y dyfodol.
“Rydyn ni'n croesawu’r buddsoddiad sylweddol yma gwerth £2.01 miliwn gan Lywodraeth Cymru a menter Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n mynd law yn llaw â chyllid y Cyngor sydd eisoes wedi’i neilltuo i’r prosiect ar gyfer 2026/27. Mae'n golygu bod modd i ni barhau i fynd â'r prosiect mawr yma i'r cam nesaf a chynnal y momentwm. Dyma brosiect pwysig i gymunedau lleol a'r economi ranbarthol ehangach.
"Dros y degawd diwethaf, mae'r Cyngor wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn priffyrdd, trafnidiaeth a seilwaith ehangach ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi mabwysiadu dull hirdymor oherwydd ein bod ni'n gwybod bod seilwaith da yn bwysig. Boed hynny'n cynnal a chadw ffyrdd, atgyweirio strwythurau, lliniaru llifogydd, cyfleoedd teithio llesol, neu ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth sylweddol yn y dyfodol fel yr un yma. Mae ein rhaglen fuddsoddiad wedi tyfu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, ac mae'r ymrwymiad parhaus yna'n ein helpu i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar ein cymunedau nawr wrth gynllunio'n iawn ar gyfer y dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 23/03/2026