Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ystod eang o brosiectau trafnidiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2026/27, gyda'r nod o gefnogi gwelliannau i briffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd.
Yn seiliedig ar ddyfarniadau llwyddiannus y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae cyfanswm y pecyn ariannu ar gyfer cynlluniau Rhondda Cynon Taf yn fwy na £5 miliwn. Mae'r prosiectau llwyddiannus yn cwmpasu cynlluniau trafnidiaeth mawr yn y dyfodol, gwelliannau i lwybrau teithio llesol lleol, llwybrau mwy diogel i ysgolion, mentrau diogelwch ar y ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell.
Darperir cyllid Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 26/27, ac mae'n cynnwys:
- £2.01 miliwn ar gyfer Ffordd Gyswllt Porth Cynon gan helpu'r Cyngor i barhau i ddatblygu'r cyswllt pwysig yma yng ngogledd Cwm Cynon, gan wella'r cysylltedd rhwng yr A4059 a'r A465. Bydd hyn yn lleddfu pwysau trafnidiaeth leol a chefnogi twf economaidd tymor hwy yn yr ardal.
- £1.369 miliwn ar gyfer Cam 3 o gynllun Parcio a Theithio’r Porth, er mwyn cefnogi cam nesaf y ddarpariaeth parcio ychwanegol sy'n gysylltiedig â Hwb Trafnidiaeth y Porth a gwelliannau ehangach i Fetro De Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gyfuno teithiau mewn car, trên a bws.
- £150,000 ar gyfer Porth y Gogledd, Pontypridd i wella mynediad i Orsaf Fysiau Pontypridd a chefnogi cysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy gwell yn ardal ehangach canol y dref.
- £660,000 ar gyfer llwybr cymuned Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan i ddatblygu'r dyluniad teithio llesol sy'n gysylltiedig â chynigion coridor Llanharan a'r ardal ehangach. Nod hyn yw gwneud teithiau lleol yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch, gan annog mwy o bobl i gerdded, teithio ar olwynion a beicio.
- £390,000 ar gyfer mân waith teithio llesol, datblygu cynlluniau, monitro, hyrwyddo a diweddaru Map y Rhwydwaith Teithio Llesol, gan alluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â gwelliannau cerdded a beicio llai, datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a pharhau i hyrwyddo teithio llesol ar gyfer siwrneiau bob dydd.
- £298,900 ar gyfer cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Pen-y-waun cefnogi llwybrau mwy diogel o amgylch Ysgol Gynradd Pen-y-Waun, gan helpu i wella diogelwch cerddwyr ac annog teithiau mwy llesol i'r ysgol.
- £94,600 ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd o ran diogelwch ar y ffyrdd er mwyn parhau â gwaith y Cyngor i godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant ymarferol a hyrwyddo defnydd mwy diogel o'r ffyrdd mewn cymunedau ac ysgolion.
- £150,000 ar gyfer camerâu cyflymder drwy ddyraniad diogelwch ar y ffyrdd rhanbarthol i gefnogi mesurau rheoli cyflymder wedi'u targedu a gwelliannau ehangach o ran diogelwch ar y ffyrdd mewn lleoliadau allweddol.
Dyfarnwyd £75,000 hefyd ar gyfer Twnnel Abernant, sy'n cysylltu Merthyr Tudful ac Aberdâr. Mae hwn yn gynllun trawsffiniol a fydd yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn helpu i ddatblygu'r uchelgais hirdymor ar gyfer cysylltiadau teithio llesol gwell rhwng y ddwy ardal.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydyn ni'n croesawu’r cyllid pwysig yma gan Lywodraeth Cymru yn fawr iawn, a bydd yn ein helpu ni i barhau i gyflawni ystod eang o welliannau trafnidiaeth ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n cefnogi popeth, o gynlluniau strategol mawr fel Ffordd Gyswllt Porth Cynon a Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan, i welliannau lleol ymarferol fel llwybrau ysgol mwy diogel, gweithgarwch o ran diogelwch ar y ffyrdd, cysylltiadau teithio llesol a chyfleoedd gwell o ran trafnidiaeth gyhoeddus.
“Dyma’r union fath o fuddsoddiad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithiau bob dydd, drwy helpu pobl i deithio o gwmpas yn haws, gwella diogelwch, annog teithio mwy cynaliadwy, a sicrhau bod ein cymunedau wedi’u cysylltu’n well.
“Dros y degawd diwethaf, mae’r Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol ym mhriffyrdd ac isadeiledd y Fwrdeistref Sirol, oherwydd rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hyn i drigolion, busnesau a chymunedau lleol. Mae'r gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru yn hynod bwysig oherwydd ei bod hi'n ategu'r buddsoddiad parhaus hwnnw gan y Cyngor ac yn ein helpu ni i gyflawni hyd yn oed yn rhagor o welliannau ar lawr gwlad.”
Wedi ei bostio ar 24/03/2026