Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn teithio o amgylch Rhondda Cynon Taf i geisio barn y trigolion cyn cytuno, yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, ar ei strategaeth gyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
Yn sgil yr achlysuron hyn, a'r sgyrsiau mae'r Cynghorwyr yn eu cael ar stepiau drysau ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol, mae'n amlwg iawn bod yr anawsterau sy'n cael eu hachosi i unrhyw sefydliad yn y sector cyhoeddus oherwydd cyni cyllidol – sef polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers 2010 – yn eglur i bawb.
Ers hynny, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ymateb yn rhagweithiol i'r toriadau a oedd yn cael ein gorfodi arnon ni; a phan wnaethon ni'r dewisiadau anodd hynny, roedd yr effaith y byddai'r toriadau hynny'n ei chael yn amlwg iawn, ar y pryd.
Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'n amlwg i mi fod pobl yn deall yr anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu, a'u bod nhw'n sylweddoli'n llawn nad ni sydd wedi achosi'r amgylchiadau hyn a'u bod nhw'n cydymdeimlo â'r sefyllfa anodd mae'r Aelodau Etholedig ynddi.
Cwestiwn sy'n cael ei ofyn o hyd yw sut rydyn ni'n gallu bwrw ymlaen â rhaglen fuddsoddi mor enfawr mewn amrywiaeth eang o wasanaethau er gwaethaf y cwtogi sylweddol ar ein cyllideb. Yn sgil ymateb yn rhagweithiol i'r cyni cyllidol rai blynyddoedd yn ôl, a thrwy wneud penderfyniadau – fel ailstrwythuro'r uwch reolwyr, cynyddu'r targedau o ran arbedion effeithlonrwydd, ailstrwythuro dull benthyca'r Cyngor a mynd i'r afael â'r bwlch yn ein cyllideb – rydyn ni wedi cynilo cyllid untro ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwelliannau hyn ac ar gyfer rhaglen #Buddsoddiad Rhondda Cynon Taf. Mae'r dull yma'n cyd-fynd â'r hyn mae'r trigolion yn sôn amdano yn ein sioeau teithiol amrywiol.
Mae'n wir bod y Cyngor yn wynebu bwlch o bron £3 miliwn yn ei gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, er gwaethaf y warchodaeth sydd wedi'i rhoi i gyllid llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol yma. Serch hynny, mae'r diffyg ariannol yma'n un rheolaidd, a does dim modd ei ddatrys â chyllid untro. Pe byddem ni'n defnyddio £3 miliwn o'r cyllid untro ar gyfer mynd i'r afael â'r bwlch yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai hynny'n cynyddu'r bwlch yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol; fyddai'r dewis yma, felly, ddim yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r cwtogi parhaus ar ein cyllid.
Yn syml, mae'n debyg i dalu biliau rheolaidd ond sylweddoli dydych chi ddim yn ennill digon o arian i'w talu nhw bob tro, felly, rydych chi'n dechrau defnyddio eich cynilion i geisio talu'r biliau. Mae'r dull yma'n helpu dros y tymor byr, ond does dim modd ei ddefnyddio dros y tymor hir oherwydd mae'r diffyg ariannol yn parhau.
O ran y £7.5 miliwn a gafodd eu cymeradwyo gan y Cabinet a'r Cyngor yr wythnos ddiwethaf ar gyfer bwrw ymlaen â chynlluniau mawr – fel safle Canolfan Siopa Cwm Taf ym Mhontypridd, diogelu isadeiledd yng Nghwm Rhondda ar gyfer y dyfodol drwy godi dwy bont newydd, a neilltuo arian ar gyfer adeiladu'r ffordd gyswllt ar draws Cwm Cynon – daeth yr arian yma o'r arbedion effeithlonrwydd rydyn ni wedi eu gwneud yn sgil ymateb i'r toriadau rydyn ni wedi eu hwynebu. Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi ymrwymo i fod yn uchelgeisiol dros y Fwrdeistref Sirol, ac mae'n bosibl i'r buddsoddiad strategol yma gyfrannu at dwf economaidd ac adfywiad er lles pob ardal yn Rhondda Cynon Taf.
Wedi ei bostio ar 07/12/16